Newyddion

09/12/2022

Rydym yn darparu cartrefi newydd ar gyfer dros 340 o bobl yn Grangetown, Caerdydd

Bellach, mae Ffordd yr Haearn yn cynnig cartref i dros 340 o bobl.

Symudodd y preswylwyr olaf i mewn i’r datblygiad 100 cartref yn Grangetown, Caerdydd, yn ystod yr haf.

Adeiladwyd Ffordd Yr Haearn mewn partneriaeth gyda Chyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru, ac mae’n gymysgedd o fflatiau 1 a 2 ystafell wely, a thai 2, 3 a 4 ystafell wely ac mae wedi’i leoli drws nesaf i siop Ikea yn y ddinas.

Dywedodd Stephanie Clements, sy’n fam:  “Mae’r tŷ ei hun yn berffaith.  Mae’n helaeth, yn fodern ac yn wych er mwyn cadw’r gwres i mewn.”

Roedd Stephanie a’i dau o blant ymhlith y preswylwyr cyntaf i symud i mewn y llynedd, ar ôl symud o ardal Channel View yn dilyn cynlluniau ailddatblygu Cyngor Caerdydd.

“Mae’r ardal yn dawelach ac yn fwy diogel a cheir mwy o breifatrwydd oherwydd bod gennym ardd gefn eang gyda ffens o’i hamgylch.  Mae’r plant yn teimlo yn fwy diogel ac maent yn ymlacio mwy yma hefyd gan bod llai o draffig.”

Mae Jess Emslie, gweithiwr chwarae 21 oed, yn gweddnewid ei bywyd ar ôl symud i’w fflat newydd yn Ffordd Yr Haearn, gyda’i dau gi.  Dywedodd:  “Mae hwn wir yn teimlo fel rhywle y gallaf ei alw yn gartref.”


Roedd Stephanie a Jess ymhlith rhai o’r preswylwyr a gyfarfu gyda rhai o Gynghorwyr Caerdydd yn ddiweddar, sef Lynda Thorne, Aelod Cabinet dros Gymunedau a Thai, ac Ashley Lister ac Abdul Sattar, ynghyd â Phrif Weithredwr Grŵp Tai Wales & West, Anne Hinchey, a rhai o aelodau’r Bwrdd yn ystod ymweliad â’r cartrefi.

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk 07484 911100 Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.