Newyddion

22/12/2022

Gwaith adeiladu yn ailgychwyn ar ein cartrefi newydd yng Nghaerdydd

Mae’r gwaith wedi ailgychwyn ar ein datblygiad newydd o 50 o fflatiau rhent cymdeithasol yng Nghwrt Three Brewers, yng Nghaerdydd.

Rydym yn gweithio gyda chwmni Hale Construction o Gastell-nedd i gwblhau’r prosiect ar hen safle tafarn Three Brewers a garej gwerthu ceir yn Rhodfa Colchester, Pen-y-lan, Caerdydd.

Roedd cryn dipyn o’r gwaith o ddatblygu bloc pedwar a phum llawr a fyddai’n cynnwys fflatiau 1 a 2 ystafell wely modern ac sy’n defnyddio ynni mewn ffordd effeithlon, a siop fanwerthu ar y llawr gwaelod, wedi cael ei wneud pan gyhoeddodd partner adeiladu WWH, Grŵp Jehu, ei fod yn nwylo gweinyddwyr.

Dywedodd Jon Harvey, Rheolwr Datblygu Rhanbarthol WWH ar gyfer De Cymru:

“Ers i’r gwaith stopio ar y safle, rydym wedi bod yn gweithio i gadw’r safle yn ddiogel ac i sicrhau contractwr newydd er mwyn ein helpu i gwblhau’r gwaith.

“Rydym yn falch ein bod wedi gallu penodi Hale Construction er mwyn ein helpu i orffen y prosiect.  Fel un o’n partneriaid adeiladu hirdymor, maent eisoes wedi adeiladu dros 130 o fflatiau i ni ar draws Caerdydd, felly rydym wrth ein bodd y byddant yn dwyn eu harbenigedd i reoli’r prosiect.”
Jon Harvey, Rheolwr Datblygu Rhanbarthol WWH

“Efallai y bydd pobl sy’n byw ac yn gweithio yn yr ardal yn sylwi ar weithgarwch yn yr ardal gan bod nifer o’r is-gontractwyr a fu’n gweithio ar y safle yn flaenorol, gan gynnwys gosodwyr brics, towyr, plymwyr, trydanwyr, a seiri wedi dychwelyd i barhau ar y gwaith ar yr adeiladau.

“Mae gwir angen am fwy o gartrefi rhent cymdeithasol ar draws Caerdydd.  Wrth i Hale ymuno gyda ni, mawr obeithiwn y bydd y cartrefi yn barod i breswylwyr symud i mewn iddynt yn nes ymlaen flwyddyn nesaf.”

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk 07484 911100 Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.