Newyddion

14/05/2021

Mae’r broses ymgeisio wedi agor ar gyfer y cynllun gofal ychwanegol newydd yng Ngheredigion

Gall preswylwyr Ceredigion wneud cais nawr i fod ymhlith y cyntaf i fyw yng nghynllun gofal ychwanegol newydd Aberystwyth, cyn iddo agor yn ystod yr haf eleni.

Lleolir Maes y Môr ym Mhen yr Angor, Trefechan, a bydd yn cynnig cymuned gefnogol o 56 o fflatiau, gan ganiatáu i bobl fyw bywyd annibynnol yn eu cartref eu hunain, lle y bydd modd iddynt fanteisio ar ofal a chymorth 24-awr ar y safle.

Bydd yn cynnig dewis byw annibynnol newydd i breswylwyr yn yr ardal leol, a bydd modd i unrhyw oedolyn sydd ag angen gofal a chymorth wneud cais am le yno.

“Mae gofal ychwanegol yn wahanol i’r hyn y bydd pobl yn ei ddychmygu – bydd gan bob preswylydd eu fflat hollol hunangynhwysol eu hunain – ac rydym yn annog pobl i wneud ymholiadau os ydynt yn credu y byddai fan hyn yn rhywle addas iddyn nhw fyw.”

Shayne Hembrow, Dirprwy Brif Weithredwr Grŵp Tai Wales & West

Mae’r gwaith adeiladu yn mynd rhagddo ar y safle, sy’n edrych allan dros harbwr Aberystwyth, a bwriedir cwblhau’r cynllun erbyn yr Haf 2021.  Bydd Maes y Môr yn cynnwys bwyty, gerddi a therasau, ynghyd â mannau er mwyn cymdeithasu dan do.

Darparir y cynllun gan Dai Wales & West mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir Ceredigion.

Dywedodd Shayne Hembrow, Dirprwy Brif Weithredwr Grŵp Tai Wales & West:  “Rydym yn teimlo’n hynod o gyffrous wrth gynnig ein cynllun gofal ychwanegol cyntaf i bobl sy’n byw yng Ngheredigion.

“Mae Maes y Môr yn cynnig golygfeydd godidog o harbwr Aberystwyth a bydd yn cynnig tai â chymorth y mae cryn angen amdanynt i bobl yn yr ardal leol.  Bydd y preswylwyr, y bydd nifer ohonynt yn oedrannus, yn gallu cael tawelwch meddwl o wybod bod tîm o staff gofal a chymorth proffesiynol yn bresennol yn y cynllun 24 awr y dydd.

“Mae gofal ychwanegol yn wahanol i’r hyn y bydd pobl yn ei ddychmygu – bydd gan bob preswylydd eu fflat hollol hunangynhwysol eu hunain – ac rydym yn annog pobl i wneud ymholiadau os ydynt yn credu y byddai fan hyn yn rhywle addas iddyn nhw fyw.

“Rydym yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir Ceredigion er mwyn darparu’r cyfleuster newydd hwn, a fydd yn gwneud gwahaniaeth i’r rhai sy’n byw yn ardal Aberystwyth ac sy’n chwilio am le gofal ychwanegol.”

Dywedodd Donna Pritchard, Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Porth Ceredigion, “Rydym yn croesawu ac yn cefnogi Cynllun Gofal Ychwanegol Maes y Môr yn Aberystwyth er mwyn bodloni’r angen yn y sir.  Bydd Maes y Môr yn sicrhau y gall pobl fanteisio ar wasanaethau a chymorth er mwyn byw bywydau annibynnol a gweithgar.”

Gellir gwneud cais trwy Ddewisiadau Tai Ceredigion ar-lein trwy droi at ceredigionhousingoptions.cymru, anfon e-bost at housingregister@ceredigion.gov.uk neu ffonio 01545 574123.

Os oes gennych chi ymholiadau cyffredinol ynghylch byw yn y cynllun, cysylltwch â Thai Wales & West trwy anfon e-bost at contactus@wwha.co.uk, ffonio 0800 052 2526 neu droi at wwha.co.uk/maesymor.

Andrew Price

andrew.price@wwha.co.uk07881 379 098 Andrew yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer Gogledd Cymru