Newyddion

21/05/2021

“Ein cartref newydd a fydd yn gwneud gwahaniaeth i fywyd ein teulu cyfan”

Mae teuluoedd sy’n symud i’n cartrefi newydd arloesol ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn dweud y bydd nifer o bethau yn gwneud gwahaniaeth i’w bywydau – yn enwedig y biliau ynni is

Dyluniwyd y datblygiad o 14 y tai a’r fflatiau hyn yw’r rhai cyntaf o’u math i’w gosod am rhent cymdeithasol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac maent wedi cael eu hariannu’n rhannol dan Raglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru i ddatblygu ffyrdd o gyflawni eu targed di-garbon ar gyfer cartrefi yn 2050.

Mae Siân Lewis a’i phartner Alex eisoes yn gweld manteision eu cartref newydd i’w teulu arbennig.

Ganwyd eu merch, Olivia, sy’n chwech oed, gyda chyflwr genetig prin o’r enw Syndrom DDX3X, sy’n effeithio ar ei dysgu a’i datblygiad. Mae hi’n mynychu ysgol arbennig a bydd angen gofal arni trwy gydol ei hoes. O ganlyniad, bu’n rhaid i Siân ac Alex roi’r gorau i’w gyrfaoedd amser llawn i ofalu am Olivia, ac maent wedi bod yn aros am sawl blynedd am gartref sy’n bodloni anghenion eu merch.

Y teulu oedd un o’r rhai cyntaf i symud i mewn ym mis Ionawr 2021.

Dywedodd Siân, 38 oed:“Mae’n gyfle gwych i fyw mewn cartref a fydd yn lleihau ein hôl troed carbon yn sylweddol.

“Gan ein bod yn deulu arbennig, nid oeddem yn dymuno symud i dŷ mwy o faint yn unig, a fyddai’n cynnig mwy o le ar gyfer anghenion Olivia. Mae cymaint o bethau am ein cartref newydda fydd yn gwneud gwahaniaeth i fywyd ein teulu cyfan.”

Preswylydd Sian Lewis 

“Mae’r dechnoleg sy’n arbed ynni yn rhyfeddol. Roeddem yn talu £140 y mis am ynni yn ein hen gartref, sy’n swm go dda o’n hincwm misol, felly rydym yn edrych ymlaen at gael biliau ynni is.

“Mae’n debygol y bydd Olivia mewn cewynnau am weddill ei bywyd, ac mae ein peiriant golchi dillad a’n dau beiriant sychu dillad wastad ymlaen, felly mae’r siawns i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd yn apelio’n fawr. Rydym yn dymuno diogelu planed ein plant.”

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk 07484 911100 Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.