Maes y Môr
Aberystwyth
50
o fflatiau un ystafell wely
6
o fflatiau dwy ystafell wely
24
gofal a chymorth 24 awr ar y safle
56
o fflatiau

Ynglŷn â Maes y Môr, Aberystwyth

Ym mis Awst 2021, cychwynnodd y gwaith adeiladu ar ein cynllun gofal ychwanegol newydd yn Aberystwyth a fydd yn costio £9m.

Wedi’i leoli ym Mhen yr Angor, Trefechan, gyda golygfeydd godidog dros y dref a’r harbwr, hwn fydd ein cynllun gofal ychwanegol cyntaf yng Ngheredigion a’r ail i gael ei agor yn y sir.

Bydd y cynllun yn darparu ystod o gyfleusterau a gofal a chymorth 24 awr y dydd.

Datblygir Maes y Môr mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ceredigion.

Cymhwysedd

Byddwn yn derbyn ceisiadau gan oedolion sydd ag angen gofal neu gymorth.

Rhoddir blaenoriaeth i’r rhai sydd eisoes yn byw yng Ngheredigion.

Gwneir asesiad o amgylchiadau pob un yn unigol i bennu eu hangen am dai gofal ychwanegol.

Llyfryn: Maes y Môr – Cymuned Gefnogol

Ymholiadau cyffredinol & sut i wneud cais

I gael gwybod mwy am fyw ym Maes y Môr anfonwch e-bost at contactus@wwha.co.uk neu ffoniwch 0800 052 2526

Nodweddion

Bydd y cyfleusterau yng nghynllun gofal ychwanegol Aberystwyth yn debyg i’r rhai yn ein cynlluniau presennol yn Nhreffynnon, Prestatyn, Yr Wyddgrug a’r Drenewydd.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Ystafelloedd cawod cerdded i mewn iddynt yn gysylltiedig
  • Ceginau gosod cyfoes (heb gynnwys nwyddau gwynion)
  • Ystafelloedd ymolchi gyda chymorth
  • Bwyty ar y safle, sy’n gweini prydau wedi’u coginio’n ffres bob dydd
  • Safleoedd lolfa
  • Ystafell i westeion
  • Cyfleusterau golchdy
  • Lle storio sgwter symudedd
  • Gerddi a therasau

Lleoliad

FAQs

Ehangwch y tabiau isod i weld atebion i’r Cwestiynau Cyffredin.

Ai rhywbeth ar gyfer pobl hŷn yn unig yw tai gofal cymdeithasol?

Na. Bydd Maes y Môr ar agor i bobl 18 oed ac yn hŷn sydd ag angen gofal a chymorth.

Mae fy mam yn dangos arwyddion cynnar clefyd Alzheimer – a fydd hi'n gallu symud i mewn i dŷ gofal ychwanegol?

Gall pobl sydd â chlefyd Alzheimer fyw mewn tai gofal ychwanegol. Fel rhan o’r asesiad a gynhelir o bob unigolyn, ystyrir pob cyflwr iechyd er mwyn sicrhau y gellir bodloni eu hanghenion gofal a chymorth cyn iddynt gael eu derbyn ar y rhestr aros am lety.

Mae fy ngŵr yn anhwylus – a ydych chi'n ystyried ceisiadau gan gyplau sy'n dymuno symud i dai gofal ychwanegol gyda'i gilydd?

Ydym. Ceir fflatiau sy’n cynnwys 2 ystafell wely, sy’n eang ac yn ddelfrydol i gyplau. Wrth asesu addasrwydd cyplau sy’n dymuno cael eu hystyried am dai gofal ychwanegol, byddem yn ystyried anghenion y ddau unigolyn a’r ddau ohonynt fel pâr.

Rydw i'n byw mewn llety gwarchod yn barod – sut fyddai llety gofal ychwanegol yn wahanol?

Y prif wahaniaeth yw bod tîm gofal a chymorth ar y safle yn ein cynlluniau gofal ychwanegol. Mae’r tîm hwn yn darparu gwasanaethau i bobl yn unol â’r hyn a gytunwyd yn eu cynlluniau gofal a chymorth unigol.

Sut fyddwch yn blaenoriaethu'r bobl ar y rhestr aros?

Pan fydd lle gwag yn codi, ystyrir pawb sydd ar y rhestr aros. Cynigir yr eiddo i’r sawl y bernir eu bod yn yr angen mwyaf ar yr adeg honno.

Ystyrir unrhyw bosibilrwydd y bydd y risg i’r unigolyn yn colli eu hannibyniaeth yn cynyddu a/neu y bydd lefel y cymorth mae ei angen arnynt yn cynyddu os byddant yn aros yn eu llety presennol.

Beth fydd yn digwydd os bydd fy iechyd yn gwaethygu pan fyddaf yn byw mewn llety gofal ychwanegol?

Disgwylir y gallai’ch anghenion newid gydag amser ac y gallai lefel y gofal a’r cymorth y bydd ei angen arnoch amrywio. Bydd y timau yn eich cynorthwyo i barhau i fyw yn eich cartref am gyfnod mor hir ag y bo modd ac am ba mor hir y bydd hyn yn bodloni eich anghenion.

A ydw i'n gallu prynu fflat?

Fflatiau i’w rhentu yn unig yw’r rhain.

A fyddaf yn gallu cael anifail anwes?

Byddwch yn y rhan fwyaf o achosion. Byddwn yn holi sut y bydd pobl yn gofalu am eu hanifail anwes, gan gadarnhau eu bod yn deall bod rhannau mewnol ac allanol yn cael eu rhannu.

A fyddaf yn gallu mynd allan pryd bynnag y byddaf yn dymuno a chael ymwelwyr?

Eich cartref chi yw eich fflat – gallwch fynd a dod a chael ymwelwyr pryd bynnag y byddwch yn dymuno.