Newyddion

20/04/2021

Cynlluniau’n rhoi Priordy hanesyddol wrth galon ailddatblygiad Ysbyty Aberteifi

Priordy hanesyddol Aberteifi fydd canolbwynt datblygiad newydd arfaethedig gan Dai Wales & West.

Nod y cynlluniau yw cynnig tai carbon isel, ecogyfeillgar i bobl hŷn, swyddfeydd, cyfleusterau cymunedol a llwybrau cyhoeddus ar safle yr hen ysbyty.

Penderfynodd WWH gomisiynu penseiri Gaunt Francis, cwmni o Gymru sydd wedi ennill gwobrau, i ystyried arwyddocâd hanesyddol a phensaernïol y safle wrth lunio cynigion ar gyfer 34 o fflatiau i bobl hŷn a swyddfeydd ar gyfer hyd at 60 o staff WWH.

Dyluniwyd y fflatiau er mwyn adlewyrchu pensaernïaeth y Priordy ac Eglwys Santes Fair gerllaw, sy’n adeilad rhestredig Gradd II, gydag iard a llwybrau clawstrog i breswylwyr.

Byddent yn cael eu hadeiladu mewn ffordd a fyddai’n sicrhau eu bod yn gartrefi di-garbon, gan ddefnyddio pympiau gwres modern, lefelau inswleiddio uchel a ffenestri agwedd ddeuol er mwyn sicrhau eu bod yn effeithlon i’w gwresogi yn y gaeaf ac yn cadw’n oer yn yr haf.  Bydd gan bob fflat falconi preifat a fydd yn edrych allan dros yr iard a’r eglwys.  Byddent yn cael eu rhentu i bobl leol ar gofrestr tai Cyngor Sir Ceredigion.

Mae WWH wedi comisiynu Asbri Planning i gynnal Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio (PAC) Statudol 28-diwrnod a fydd yn agor ar 21 Ebrill ac yn dod i ben ar 19 Mai, er mwyn cynnig cyfle i bobl leol weld y cynlluniau a gwneud sylwadau amdanynt.

Mae’r cynlluniau’n cynnwys:

  • adeiladu swyddfeydd newydd i’r de, gan gysylltu gyda’r Priordy a chan greu safle rhanbarthol ar gyfer Tai Wales & West a’i gwmni cynnal a chadw mewnol, Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria;
  • creu llwybr cyhoeddus trwy’r safle ac ar hyd Afon Teifi;
  • dymchwel y wal gerrig uchel, a elwir yn “wal garchar” yn lleol, ar hyd y porth wrth Bont-Y-Cleifion, gan ailddefnyddio’r cerrig mewn waliau terfyn is;
  • trawsnewid yr ystafell fawr ar lawr gwaelod adeilad Nash er mwyn creu caffi cymunedol, gyda mynediad i’r cyhoedd i’r grisiau crwm gwreiddiol. Byddai menter gymdeithasol leol yn rhedeg y caffi.

Dywedodd Alan Francis, Cyfarwyddwr yn Gaunt Francis:  “Rydym yn deall bod hwn yn safle pwysig yn hanes Aberteifi.

“Nid yw’r newidiadau a gyflawnwyd gan y bwrdd iechyd ar ddechrau’r 20fed ganrif wedi bod yn garedig i’r adeilad, a byddem yn dymchwel yr estyniadau mwy newydd i’r ysbyty, gan sicrhau bod y Priordy yn sefyll allan fel canolbwynt ein datblygiad.

“Rydym yn teimlo’n gyffrous am y dyluniadau.  Mae ein penseiri, Gaunt Francis, wedi treulio cryn amser yn ymchwilio i hanes y safle a’i berthynas gyda’r dref, yn ogystal ag ystyried y sylwadau niferus a’r adborth a gafwyd gan y cyhoedd a rhanddeiliaid eraill”
Dywedodd Dirprwy Brif Weithredwr Grŵp Tai Wales & West, Shayne Hembrow.

“Diweddarwyd y cynlluniau yr ydym yn eu cyflwyno ar sail yr adborth a gafodd ein penseiri gan bobl a rhanddeiliaid lleol a fynychodd y digwyddiadau ymgysylltu â’r cyhoedd ar-lein a gynhaliwyd ym mis Chwefror eleni.

“Mae’r canlyniad yn ddyluniad cyffrous ac arloesol sy’n creu swyddfeydd a chartrefi rhad-ar-ynni y mae cryn angen amdanynt, y byddant yn cyd-fynd â’r adeiladau hanesyddol yn yr ardal.  Trwy symud ein swyddfeydd i Aberteifi, byddwn yn dwyn rhagor o bobl a buddion i’r dref.”

“Rydym yn teimlo’n arbennig o gyffrous am y cynlluniau i sicrhau bod tŷ Nash yn ganolbwynt ar gyfer y datblygiad, gan agor y safle prydferth at ddefnydd y cyhoedd.  Byddem yn croesawu syniadau am ffyrdd y gallem ddatblygu’r gerddi er budd y gymuned.”

“Bu’r adborth gan bobl leol a gyfarfu â’r penseiri ac a welodd y cynlluniau yn ein digwyddiadau ymgysylltu rhith ar Zoom yn gadarnhaol iawn.”

“Credwn bod gennym gyfle gwych i greu datblygiad a fydd yn cynnig budd i bobl Aberteifi yn y safle pwysig hwn wrth y fynedfa i’r dref.”

I weld yr Ymgynghoriad Cyhoeddus, trowch at https://www.asbriplanning.co.uk/statutory-pre-application-consultation/land-at-cardigan-hospital/

Fel rhan o’r ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Chwefror 2021, aeth y penseiri ati i greu fideo ar gyfer y cynllun.  Diweddarwyd y cynlluniau yn y fideos hyn ar gyfer y cais cynllunio, ar sail yr adborth a gafwyd, ond mae’r fideo yn cynnig syniad da o’r ystyriaethau a gyfrannodd at y dyluniadau ar gyfer y safle.

Tudalen blog Penseiri Gaunt Francis, gauntfrancisarchitects.blog

Hanes y safle

  • Mae’r safle yn dyddio’n ôl i’r 12fed ganrif, pan sylfaenwyd Priordy Benedictaidd canoloesol Santes Fair ar y safle.
  • Yn y 18fed ganrif, gwelwyd perchnogaeth y Priordy yn newid dwylo sawl gwaith, ac ym 1789, comisiynwyd John Nash, y pensaer nodedig sy’n enwog am ddylunio Palas Buckingham a Stryd Regent yn Llundain, gan y perchennog, Elizabeth Johnes of Croft, i ddylunio Priordy newydd.
  • Trwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gwelwyd y tŷ yn newid dwylo nes i syndicet o bobl leol brynu’r adeilad a’i drawsnewid yn ysbyty er mwyn trin milwyr a oedd wedi dychwelyd o’r Rhyfel Byd Cyntaf.  Agorwyd yr Ysbyty Coffa ym mis Gorffennaf 1922 gan y prif weinidog ar y pryd, David Lloyd George.  Ym 1948, trosglwyddwyd ei berchnogaeth i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac estynnwyd ac ailddatblygwyd yr adeilad.

 

 

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk 07484 911100 Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.