Arall
Manylion polisi yswiriant/Manylion Adnabod y Porth
Cyffredinol
Beth yw cost y cynllun perchentyaeth cost isel?
Sut allaf fod yn Aelod o’r Bwrdd?
Cwyn neu Bryder
- Drwy ffonio 0800 052 2526
- E-bostio contactus@wwha.co.uk
- Ar-lein
- Ysgrifennwch atom yn Tŷ’r Bwa, 77 Parc Tŷ Glas, Llanisien, Caerdydd, CF14 5DU
- Polisi Cwynion
Rheoli fy nghartref
A ydych chi’n caniatáu anifeiliaid anwes?
Sut ydw i i drosglwyddo i gartref arall Tai Wales & West?
Ar gyfer ardaloedd awdurdodau lleol eraill, bydd yn rhaid i chi gysylltu â’r awdurdod lleol yn yr ardal yr ydych yn dymuno symud iddi, gan ymuno â’u Cofrestr Tai Cyffredin nhw.
Cyn gwneud cais am drosglwyddiad, dylech sicrhau:
- Bod eich holl daliadau rhent wedi cael eu talu
- Bod eich eiddo mewn cyflwr da
- Nad ydych yn peri unrhyw niwsans i’ch cymdogion
Efallai yr hoffech ystyried cydgyfnewid, oherwydd y gallai hyn gynyddu’ch siawns o ddod o hyd i gartref addas yn gyflymach.
Sut allaf i gyfnewid cartref?
Os ydych yn edrych i symud cartref, yn aml y ffordd hawsaf o wneud hynny yw cyfnewid cartref gyda rhywun sy’n byw mewn eiddo cymdeithas dai neu gyngor. Mae HomeSwapper yn wefan lle y gall pobl sy’n dymuno symud nodi manylion yr hyn y maent yn ei ddymuno a chael eu cyfateb gyda phobl arall sy’n dymuno symud.
Gall preswylwyr Tai Wales & West gofrestru am ddim ar HomeSwapper ac ar ôl i chi gofrestru, gallwch bostio manylion yr hyn yr ydych yn chwilio amdano a’r hyn yr ydych yn ei gyfnewid. Bydd HomeSwapper yn chwilio am unrhyw bosibiliadau yn awtomatig, gan roi gwybod i chi am unrhyw gyfleoedd addas posibl.
Pan fyddwch wedi dod o hyd i rywun i gyfnewid cartref ag ef neu hi, cysylltwch â ni drwy’r gwasanaeth Gofyn am Newid neu ffoniwch ni. Byddwn yn anfon ffurflen gyfnewid atoch i’w llenwi a’i dychwelyd er mwyn i ni allu gwneud penderfyniad.
Hoffem hefyd eich cynghori, os yw’r cyfnewid gyda thenant landlord arall, bydd angen caniatâd y landlord hwnnw hefyd ac, o ganlyniad, efallai na fydd y penderfyniad yn ein dwylo ni yn unig bob amser.
Cyn gwneud cais am gyfnewid cydfuddiannol, gwnewch yn siŵr:
- bod eich rhent wedi’i dalu’n gyfredol
- bod eich cartref mewn cyflwr da
- bod yr eiddo yr hoffech symud iddo yn addas i’ch anghenion
- nad ydych yn torri unrhyw delerau eraill eich Contract Meddiannaeth
HomeSwapper
HomeSwapper yw gwasanaeth cyfnewid cydfuddiannol mwyaf blaenllaw’r DU, gyda dros 500,000 o denantiaid yn chwilio am gyfnewid cartrefi cyngor a chymdeithasau tai.
