Mae ein staff yn cynnal Sgyrsiau Cymunedol mewn ardaloedd ar draws Cymru, ac yn gwahodd y preswylwyr sy’n byw yn yr ardaloedd hynny i ddod i gael sgwrs.  

Hoffem glywed eich safbwyntiau am y pethau sy’n bwysig i chi, er enghraifft, gallai hynny fod yn rhenti, eich cartref, gwaith trwsio, y gwasanaethau yr ydym yn eu rhedeg neu’r gymuned lle’r ydych yn byw. 

Dweud eich Dweud 

Credwn mai’r ffordd orau i ni wneud gwelliannau a theilwra gwasanaethau, yw trwy wrando ar yr hyn y byddwch yn ei ddweud wrthym, a gweithredu ar sail yr adborth hwnnw. 

Rydym wastad yn ceisio gwella’r ffordd yr ydym yn eich cynnwys wrth gynllunio darpariaeth gwasanaethau sy’n bwysig i chi.     Yn ychwanegol i’r sgyrsiau y bydd ein timau yn eu cael o ddydd i ddydd yn ystod digwyddiadau ymgysylltu â’r gymuned megis sesiynau dal i fyny, cyfarfod y timau a gweithgareddau lleol, mae Sgyrsiau Cymunedol yn ffordd o ddwyn y rhain oll ynghyd i gasglu eich adborth. 

Rydym yn cynnal digwyddiadau Sgyrsiau Cymunedol yn rheolaidd mewn cymunedau ar draws Cymru.  

Dyma le y gallwch chi ymuno â’r sgwrs 2026 

v

Maes Merydd, Llandisilio

Dydd Iau, Ebrill 2, 10am – 12pm   

v

Maes Hyfryd, Wrecsam

Dydd Iau, Mawrth 26, 10.30am – 2.30pm  

v

Llys Maesamlwg, Tregaron

Dydd Mawrth, Mawrth 31, 11am – 2pm 

 

Beth nesaf?   

Diolch i bawb a ddaeth i’n hymweliadau cymunedol mwyaf diweddar.

Rydym wedi cofnodi eich holl adborth o’r Sgyrsiau Cymunedol a gynhaliwyd yn ddiweddar, ac rydym yn ystyried yr hyn y gallwn ei wneud i wella ein gwasanaethau.

Lle y mae materion ehangach sy’n effeithio ar sawl cymuned, byddwn yn ystyried pa newidiadau y gallwn eu gwneud i’n ffyrdd o weithio er mwyn helpu preswylwyr.

Byddwn hefyd yn adrodd yn ôl i breswylwyr sy’n byw yn y cymunedau unigol hynny, gan nodi’r hyn a glywsom a’r hyn y byddwn yn ei wneud.