Sut ydym yn perfformio?
Croeso i’n hadroddiad diweddaraf, sy’n dangos sut yr ydym yn perfformio fel landlord. Mae’r ffigurau yn yr adroddiad hwn yn ymwneud â’r tri mis rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2026.
Cynnal a chadw
Mae ein cwmni grŵp Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria yn cwblhau tri o bob pedwar o’r atgyweiriadau o ddydd-i-ddydd ar gartrefi preswylwyr. Fodd bynnag, mae peth o’r gwaith mwy arbenigol yn cael ei wneud gan gontractwyr allanol. Mae’r gwaith hwn yn aml yn fwy cymhleth a gall gymryd mwy o amser.
Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria
9144
nifer y tasgau trwsio a gwblhawyd
16
nifer gyfartalog y diwrnodau a gymrwyd i gwblhau gwaith trwsio
99%
cadwyd at apwyntiadau
72%
y ganran a drwsiwyd gennym y tro cyntaf
Contractwyr allanol
703
nifer y tasgau trwsio a gwblhawyd
25.7
nifer gyfartalog y diwrnodau a gymrwyd i gwblhau gwaith trwsio
Cymerodd gwaith trwsio trydanol 17 diwrnod (ar gyfartaledd)
Cymerodd gwaith trwsio ar system wresogi 21.7 diwrnod (ar gyfartaledd)
Gwneud ein cartrefi yn fwy ynni-effeithlon
Eleni, rydym wedi cael £6.4m £6.4 miliwn o gyllid gan Raglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio Llywodraeth Cymru i wneud mwy na 200 o gartrefi ledled Cymru yn fwy ynni-effeithlon.
Yn Nhŷ Brynseion, Merthyr Tudful, rydym yn uwchraddio’r system wresogi ac yn gosod deunydd inswleiddio waliau allanol (EWI) ar gyfer 40 o gartrefi.
Prosiectau newydd:
Oldwell Court, Caerdydd: deunydd insiwleiddio newydd a phaneli solar ffotofoltaidd (PV) ar gyfer 38 o gartrefi.
Brynawelon, Llanwrtyd Wells, Powys: deunydd insiwleiddio allanol i waliau (EWI), paneli solar ffotofoltaidd (PV) ac uwchraddio toeau a systemau awyru ar gyfer 23 o gartrefi.
Clos Pantyfedwen, Y Borth: pympiau gwres ffynhonnell aer newydd, paneli solar ffotofoltaidd (PV) a systemau storio batris ar gyfer 14 o gartrefi.
Bydd gwaith yn dechrau ar brosiectau yn Sir y Fflint, Conwy, Ceredigion a Phen-y-bont ar Ogwr cyn diwedd y flwyddyn.
Rhenti
95%
o breswylwyr yn talu eu rhent fel y trefnwyd gyda Swyddogion Tai
1.12%
o denantiaethau mewn ôl-ddyledion rhent ar hyn o bryd
6,938
o breswylwyr yn defnyddio Debyd Uniongyrchol i dalu eu rhent
83
o breswylwyr mewn lefel uchel o ôl-ddyledion rhent
Gosodiadau
281
gosodwyd 246 o gartrefi
62
nifer gyfartalog o ddiwrnodau i ailosod cartref
52%
gosodwyd 45% o eiddo i aelwydydd digartref
Eich cadw yn ddiogel yn eich cartref
Er mwyn cadw preswylwyr yn ddiogel, rydym yn cynnal gwiriadau a gwasanaethau rheolaidd a thrylwyr o’r prif systemau yn ein cartrefi a’n cynlluniau yn unol â’n cyfrifoldebau cyfreithiol.
Mae
9,826
o gartrefi wedi cael archwiliad diogelwch nwy blynyddol. Mae hyn yn golygu ein bod yn cydymffurfio 100%.
Mae gan
12,067
o gartrefi dystysgrif diogelwch trydanol dilys. Rydym yn cydymffurfio 99.7%.
Mae
305
o gartrefi a chynlluniau yn cael asesiad risg tân o leiaf unwaith y flwyddyn. Rydym yn cydymffurfio 99.7%.
Mae
81
o gynlluniau’n cael eu gwirio am ddiogelwch dŵr bob mis. Rydym yn cydymffurfio 100%.
Mae
175
o ardaloedd mewn cynlluniau sy’n cynnwys deunyddiau asbestos yn cael eu gwirio bob blwyddyn. Rydym yn cydymffurfio 100%.
Mae
75
lifft yn cael eu gwirio am ddiogelwch bob chwe mis. Rydym yn cydymffurfio 100%.
Bodlonrwydd
Y sgôr a roddir ar raddfa o 0-10 lle mae 0 yn wael a 10 yn ardderchog.
8.7
bodlonrwydd preswylwyr newydd gyda gosodiadau
9.2
atgyweiriadau Cambria
9.8
atgyweiriadau contractwyr allanol
Gwnaethpwyd 112 o gwynion yn ystod y cyfnod hwn
Cartrefi newydd
112
Cwblhawyd 47 o gartrefi newydd
661
o gartrefi newydd yn cael eu hadeiladu ar hyn o bryd
O’r rhain gartrefi newydd yn cael eu hadeiladu :
113
yn cael eu hadeiladu yng Ngogledd Cymru
287
yn cael eu hadeiladu yn Ne Cymru
261
yn cael eu hadeiladu yng Ngorllewin Cymru
572
ar gyfer rhent cymdeithasol
24
ar gyfer Berchentyaeth Cost Isel
14
yn cael eu gwerthu drwy Own Home Cymru ac Enfys Homes
Sut yr ydym yn rhedeg ein busnes
Cawsom 348 o alwadau y dydd ar gyfartaledd am waith trwsio a gwresogi, a 148 o alwadau y dydd i’n Tîm Cymorth Tai
Yr amser aros cyfartalog i breswylwyr a oedd yn ffonio i’r Tîm Gwaith Trwsio 42 eiliad a 48 eiliad i’n Tîm Cymorth Tai
9am-10am
oedd yr amser prysuraf i ffonio ein Tîm Trwsio
9am-10am
oedd yr amser prysuraf i ffonio ein Tîm Cymorth Tai
