Rydym yn cynhyrchu’r fideos hyn er mwyn helpu preswylwyr presennol a newydd i ddeall y cynhyrchion a’r dechnoleg yn eu cartref. Gallai ymddangosiad modelau amrywio i’r rhai a ddangosir yma, ond fel arfer, byddwch yn gweld bod eu gweithrediad yr un fath. Am gyfarwyddiadau mwy manwl, trowch at lawlyfr defnyddiwr y cynhyrchion neu defnyddiwch yr adnoddau y nodir cyswllt iddynt isod.

Sut i ddefnyddio: Blwch ffiwsiau

Os bydd y trydan yn mynd i ffwrdd yn eich cartref, efallai mai dyfais ddiffygiol sydd ar fai.

Yr enw am hwn yw tripio.

Bydd y ddyfais ddiffygiol yn tripio eich trydan ac yn torri’r cyflenwad er mwyn sicrhau eich bod yn ddiogel. Gallwch weld pa ddyfais sy’n ddiffygiol trwy edrych yn y blwch ffiwsiau.

Bydd hwn mewn cwpwrdd ar y llawr gwaelod, ger y drws ffrynt neu’r grisiau fel arfer.

Codwch y fflap a byddwch yn gweld cyfres o switshys ffiwsiau. Os yw popeth yn gweithio’n iawn, byddant i gyd yn wynebu i fyny, fel y dangosir.

Os bydd dyfais wedi peri i’r trydan dripio, byddwch yn gweld bod un o’r switshys i ffwrdd.

Nodwch pa switsh sydd i ffwrdd yn ôl y label.

Er enghraifft, y socedi cegin, y ffwrn neu’r gawod.

Datgysylltwch y plwg ar gyfer pob dyfais yn yr ystafell honno, a rhowch y switsh yn ôl ymlaen, yna plygiwch un o’r dyfeisiau yn ôl i mewn.

Ewch yn ôl i’r blwch ffiwsys i weld a yw’r switsh wedi tripio eto.

Os na, gwnewch hynny gyda’r ddyfais nesaf.

Ailadroddwch y broses nes i chi ddod o hyd i’r ddyfais sy’n peri i’r switsh droi i ffwrdd.

Honno yw’r ddyfais ddiffygiol.

Tynnwch blwg y ddyfais allan o’r wal a rhowch y switsh yn ôl ymlaen.

Yna dylech drwsio’r ddyfais neu gael gwared arni mewn ffordd gyfrifol.

Ffaniau EnviroVent

Blwch Mesurydd

Synhwyrydd mwg

Paneli Solar