Rydym yn cynhyrchu’r fideos hyn er mwyn helpu preswylwyr presennol a newydd i ddeall y cynhyrchion a’r dechnoleg yn eu cartref. Gallai ymddangosiad modelau amrywio i’r rhai a ddangosir yma, ond fel arfer, byddwch yn gweld bod eu gweithrediad yr un fath. Am gyfarwyddiadau mwy manwl, trowch at lawlyfr defnyddiwr y cynhyrchion neu defnyddiwch yr adnoddau y nodir cyswllt iddynt isod.

Sut i ddefnyddio:Tanc Dŵr Poeth

Mae tanc dŵr poeth eich cartref yn dal digon o ddŵr poeth er mwyn cael dau bath llawn neu sawl cawod.

Mae’r tanc wedi cael ei osod i weithio ar ei lefel fwyaf effeithlon, gan wresogi’r dŵr i 38 gradd a manteisio i’r eithaf ar y tariff ynni allfrig is.

Mae dangosydd y tanc ar gyfer gwaith cynnal a chadw ac ni ddylid ei droi i ffwrdd.

Ni fydd angen i chi wneud unrhyw beth.

Unwaith y flwyddyn, bydd angen i ni gael mynediad i wasanaethu’r tanc, felly bydd angen cadw’r ardal o’i gwmpas yn glir.

Caiff y dŵr ei wresogi gan bwmp gwres ffynhonnell aer, sy’n cymryd aer o’r tu allan i wresogi’r dŵr.

Mae’n annhebygol y byddwch yn defnyddio’r holl ddŵr poeth ar unwaith, ond os byddwch, mae’n cymryd tua tair awr i’w wresogi unwaith eto a bydd hyn yn costio mwy gan ddefnyddio cyfraddau ynni brig.

Os yw eich dŵr yn oer yn gyson, efallai bod nam ar y system a dylech ein ffonio i adrodd am hyn.

Related pages

Air source heat pump

Boiler & hot water

BT Connections

EnviroVent Fans