Rydym yn cynhyrchu’r fideos hyn er mwyn helpu preswylwyr presennol a newydd i ddeall y cynhyrchion a’r dechnoleg yn eu cartref. Gallai ymddangosiad modelau amrywio i’r rhai a ddangosir yma, ond fel arfer, byddwch yn gweld bod eu gweithrediad yr un fath. Am gyfarwyddiadau mwy manwl, trowch at lawlyfr defnyddiwr y cynhyrchion neu defnyddiwch yr adnoddau y nodir cyswllt iddynt isod.

Sut i ddefnyddio: Stop-tap

Gallwch atal y cyflenwad dŵr i’ch cartref yn hawdd gan ddefnyddio switsh Sure Stop.

Gallwch weld y switsh Sure Stop mewn cwpwrdd yn eich cartref, ger y drws ffrynt neu’r grisiau fel arfer.

I droi’r cyflenwad dŵr i ffwrdd, dylech droi hwn i’r safle i ffwrdd.

Bydd hyn yn atal y cyflenwad dŵr i’ch tŷ cyfan ac yn rhoi amser i chi gysylltu â’n tîm trwsio i adrodd am y broblem.

Os bydd switsh Sure Stop yn methu, gallwch ddefnyddio’r stop-tap i atal y cyflenwad dŵr.

Yn syml, trowch hwn i’r safle i ffwrdd.

Mae’r tap ger y botwm Sure Stop, neu dan sinc y gegin.

Pwmp Aer

Boeler

Cysylltiadau BT

Blwch ffiwsiau