Rydym yn cynhyrchu’r fideos hyn er mwyn helpu preswylwyr presennol a newydd i ddeall y cynhyrchion a’r dechnoleg yn eu cartref. Gallai ymddangosiad modelau amrywio i’r rhai a ddangosir yma, ond fel arfer, byddwch yn gweld bod eu gweithrediad yr un fath. Am gyfarwyddiadau mwy manwl, trowch at lawlyfr defnyddiwr y cynhyrchion neu defnyddiwch yr adnoddau y nodir cyswllt iddynt isod.

Sut i ddefnyddio: Reiddiaduron Stôr Trydan

Bydd gan eich cartref reiddiaduron stôr wedi’u gosod yn yr ystafell fyw, y cyntedd a’r ystafelloedd gwely.

Gwnewch yn siŵr nad oes dodrefn neu lenni yn gorchuddio’r rhain.

Maent wedi’u gosod i storio gwres a gynhyrchir gan drydan allfrig rhatach yn ystod y nos, a’i ryddhau yn ystod y dydd, gan wresogi eich ystafelloedd i 21 gradd.

Mae’n bwysig nad yw’r rheiddiaduron yn cael eu troi i ffwrdd wrth y wal oherwydd efallai y bydd y gosodiadau yn cael eu colli.

Gallwch reoli’r tymheredd eich hun unrhyw bryd.

Bydd troi’r deial i’r dde yn troi’r tymheredd i fyny, a bydd ei droi i’r chwith yn ei droi i lawr.

Bydd troi’r deial i’r chwith yn llwyr yn ei droi i ffwrdd.

Os bydd golau coch yn dod ymlaen pan fyddwch yn codi’r tymheredd, mae’n golygu eich bod yn defnyddio trydan yn ôl y gyfradd safonol yn lle trydan allfrig, a bydd hyn yn ddrytach i’w redeg.

Mae golau gwyrdd yn dynodi’r dull eco mwyaf effeithlon a bydd yn dod ymlaen pan osodir y tymheredd rhwng 17 a 21 gradd.

Dangosir y golau glas pan osodir y tymheredd dan 17 gradd.

Pan fydd y gwres yn dod ymlaen, bydd oedi o hyd at funud cyn i’r ffan ddod ymlaen.

Mae hyn yn normal ac nid yw’n golygu bod nam arno.

Mae gan bob rheiddiadur ei thermostat unigol ei hun.

Ni fydd newid y tymheredd mewn un ystafell yn ei newid mewn ystafelloedd eraill.

Bydd y sgrin yn diffodd pan na fydd yn cael ei defnyddio.

Mae’r rheiddiadur yn gweithio o hyd a gallwch ddihuno’r sgrin trwy bwyso’r deial eto.

Related pages

Air source heat pump

Boiler & hot water

BT Connections

EnviroVent Fans