Rydym yn cynhyrchu’r fideos hyn er mwyn helpu preswylwyr presennol a newydd i ddeall y cynhyrchion a’r dechnoleg yn eu cartref. Gallai ymddangosiad modelau amrywio i’r rhai a ddangosir yma, ond fel arfer, byddwch yn gweld bod eu gweithrediad yr un fath. Am gyfarwyddiadau mwy manwl, trowch at lawlyfr defnyddiwr y cynhyrchion neu defnyddiwch yr adnoddau y nodir cyswllt iddynt isod.

Sut i ddefnyddio: Cysylltiadau BT

Mae blwch Openreach y tu allan i’ch cartref, wrth du blaen yr eiddo fel arfer.

Mae hwn yn cyflenwi rhyngrwyd band eang i’ch cartref ac mae at ddefnydd peiriannydd yn unig.

Mae blwch Openreach arall yn eich ystafell fyw. Gallwch blygio’r llwybrydd neu’r hyb rhyngrwyd a gyflenwyd gan eich darparwr i mewn i’r blwch hwn yn uniongyrchol er mwyn mynd ar-lein.

Os bydd angen i chi gysylltu ag aelod o staff neu adrodd am waith trwsio, cysylltwch â Thai Wales & West ar 0800 052 2526 neu trowch at ein gwefan sef www.wwha.co.uk lle y gallwch adrodd am waith trwsio ar-lein.

Ffaniau EnviroVent

Blwch ffiwsiau

Blwch Mesurydd

Synhwyrydd mwg