Newyddion

15/12/2023

Sut i wefru a storio eich e-feic neu e-sgwter yn ddiogel

Gall gwefru e-sgwteri a beiciau fod yn beryglus, yn ôl ymatebwyr cyntaf.

Yn ddiweddar, daethant i’r casgliad ei bod yn debygol mai achos tân mewn tŷ yn Hove, Lloegr, oedd batri e-feic.

Mae gwasanaethau tân yn amlygu’r risgiau sy’n codi wrth wefru batris lithiwm-ïon, sy’n gyffredin mewn e-feiciau ac e-sgwteri.  

Sut i wefru a storio eich e-feic/e-sgwter yn ddiogel

Os ydych chi’n prynu e-feic, e-sgwter neu fatri newydd, gwyliwch sut i’w defnyddio mewn ffordd ddiogel.

Dilynwch y cyngor hwn er mwyn eu gwefru yn ddiogel:

  • Storiwch eich e-feic neu’ch e-sgwter y tu allan mewn garej neu sied os oes modd
  • Dylech gadw llwybrau dianc ac allanfeydd yn glir os bydd angen i chi ei wefru y tu mewn
  • Gadewch i’r batri oeri cyn ei wefru ac yna, tynnwch y plwg allan ar ôl iddo orffen. Peidiwch â gor-wefru’r batri
  • Peidiwch â gwefru’r cerbyd pan fyddwch yn cysgu neu pan na fydd unrhyw un gerllaw
  • Archwiliwch eich batri yn rheolaidd am arwyddion o ddifrod, yn enwedig os byddwch yn ei gwympo neu’n cael damwain ar eich e-feic/e-sgwter. Gall batris wedi’u difrodi ordwymo neu fynd ar dân
  • Peidiwch â gorlwytho socedi trydanol

Prynwch gan werthwr dibynadwy 

Nid yw hyn yn berthnasol i brynu e-feic neu e-sgwter ar ddydd Gwener Gwario a dros y Nadolig yn unig.

Os byddwch yn prynu mewn marchnad ar-lein, efallai na fydd y cynnyrch yn bodloni safonau diogelwch y DU.

Edrychwch am farc CE ar y cynnyrch a’r deunydd pacio, fel y dangosir isod. 

CE marking

Efallai y bydd cynhyrchion nad ydynt yn bodloni safonau diogelwch y DU wedi cael eu difrodi ac efallai y byddant yn fwy tebygol o fynd ar dân.

Cofrestrwch eich e-feic neu e-sgwter

Gallwch ddilysu gwarantiadau os byddwch yn cofrestru eich cynnyrch gyda’r cynhyrchwr.  Mae hyn yn cynnwys batris.

Os bydd unrhyw broblemau diogelwch yn codi gyda’ch e-feic neu e-sgwter yn nes ymlaen, bydd hi’n haws i’r cynhyrchwr gysylltu â chi.  

Lluniwch gynllun dianc yn eich cartref

Gallai gwybod yr hyn i’w wneud a ble i fynd os bydd tân yn eich cartref arbed eich bywyd.

Dylech baratoi ac ymarfer yr hyn y byddech yn ei wneud pe bai tân yn eich cartref.

Sicrhewch bod y larymau mwg yn eich cartref yn gweithio trwy eu profi bob wythnos. Gwyliwch sut i archwilio eich larwm mwg.

Os bydd eich e-feic, eich e-sgwter neu unrhyw fatri lithiwm-ïon arall yn mynd ar dân, peidiwch â cheisio ei ddiffodd.

Ewch allan, arhoswch allan, ffoniwch 999 os bydd tân yn eich cartref.  

Cyngor gan eich gwasanaeth tân lleol

De Cymru

Gogledd Cymru

Canolbarth a Gorllewin Cymru

Andrew Price

andrew.price@wwha.co.uk07881 379 098 Andrew yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer Gogledd Cymru