Newyddion

27/04/2023

Preswylwyr yn codi dros £2,000 ar gyfer elusennau

Llwyddodd y rhai a fu’n codi arian yng nghynllun gofal ychwanegol Tai Wales & West i godi dros £2000 ar gyfer elusennau sy’n agos i’w calonnau, diolch i gymorth cyd breswylwyr, ffrindiau a theulu.

Trwy gydol 2022, trefnodd y grŵp o breswylwyr yn Nant y Môr ddigwyddiadau i gefnogi mudiadau elusennol y mae ganddynt gysylltiad personol agos â nhw.

Roedd Cymdeithas Alzheimers, Plant mewn Angen, Beiciau Gwaed Cymru, Cŵn Tywys y Deillion a banc bwyd a lloches leol i fenywod ymhlith y rhai a gafodd yr arian.

Mae Alf Naylor, gyda’i wraig Mary, wedi bod yn codi arian trwy gydol ei oes, ac mae’r pâr wedi cefnogi nifer o elusennau dros y blynyddoedd. Symudont i Nant y Môr bum mlynedd yn ôl.

Bu arwerthiannau pen desg Alf a Mary yn ystod 2022 yn codi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru a Sefydliad Prydeinig y Galon.

Dywedodd Alf: “Mae codi arian yn fy ngwaed. Mae pawb yn Nant y Môr yn gefnogol iawn o’r hyn a wnawn ac mae hyn wedi ein helpu i godi cymaint o arian ar gyfer achosion da. Mae pob elusen yn dibynnu ar gyllid er mwyn iddynt allu cyflawni’r gwaith rhyfeddol a wnânt, ac rydym yn cael cryn fodlonrwydd o’r rhan fechan yr ydym yn ei chyflawni wrth eu helpu.

“Bu fy mrawd mewn damwain ffordd yng Nghyffordd Llandudno 20 mlynedd yn ôl, ac roedd yr Ambiwlans Awyr wedi ei gasglu a’i gludo i’r ysbyty, felly hwn yw fy ffordd i o roi rhywbeth yn ôl.”

Ymhlith aelodau eraill y grŵp, mae Jean Carratero yn codi arian ar gyfer Hosbis St Kentigern yn Llanelwy trwy wneud cardiau â llaw.

Roedd un preswylydd arall, Lily Whitley, wedi casglu rhoddion ar gyfer elusennau yn ystod sawl te prynhawn a drefnwyd ar y cyd â swyddog lles Nant y Môr, Yvette Byrne Jones.

“Mae pawb yn Nant y Môr yn gefnogol iawn o’r hyn a wnawn, ac mae hyn wedi ein helpu i godi cymaint o arian ar gyfer achosion da.”

Alf Naylor, un o breswylwyr Nant y Môr

Rhoddodd Tracey Griffiths sgwrs am Gŵn Tywys gyda Lara, ei chi labrador, a rhoddwyd yr arian er mwyn cefnogi gwaith yr elusen Cŵn Tywys, sy’n newid bywydau.

Dywedodd Tracey:  “Mae nifer fawr o bobl yn credu bod cŵn tywys wastad yn gweithio, ond maent yn mwynhau chwarae ac ymarfer fel cŵn eraill hefyd – felly cynlluniwyd y sgwrs i gynnig dirnadaeth i bobl o’u bywyd ac i chwalu rhai o’r camdybiaethau hyn.

“Mae Lara wedi bod gyda mi ers yr oedd hi’n ddwy flwydd oed, ac ni allwn fod hebddi.”

Bydd yr ymdrechion i godi arian yn parhau i fod yn rhywbeth y bydd y grŵp cyfan yn canolbwyntio arno trwy gydol 2023, a bwriedir cynnal digwyddiadau tymhorol gan gynnwys cynnal casgliad blynyddol o anrhegion adeg y Nadolig.  Caiff y rhain eu lapio gan breswylwyr Nant y Môr ac fe’u cesglir gan Eglwys Festival ym Mhrestatyn, sy’n eu dosbarthu i’r rhai yn yr angen mwyaf.

Mae Nant y Môr yn cynnwys 59 o fflatiau a hwn oedd cynllun gofal ychwanegol cyntaf Tai Wales & West, a adeiladwyd mewn partneriaeth â Chyngor Sir Dinbych.

I gael gwybod mwy, trowch at https://www.wwha.co.uk/cy/property-extra-care/nant-y-mor/

Andrew Price

andrew.price@wwha.co.uk07881 379 098 Andrew yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer Gogledd Cymru