Newyddion

12/05/2023

Dosbarth celf yn helpu i leddfu unigrwydd ac arwahanrwydd

Artists Liz Metcalfe (left) and Barbara Edwards (right)

Mae grŵp celf a sefydlwyd gan ddwy ffrind a brofodd ddigwyddiadau a newidiodd eu bywyd yn helpu i leihau unigrwydd ac arwahanrwydd, gan ddysgu sgiliau newydd i bobl.

Mae Blitz Art yn cyfarfod bob dydd Llun yng Nghwrt Sylvester yn Wrecsam dan arweiniad Barbara Edwards a Liz Metcalfe, tiwtoriaid celf.

Cyfarfu Barbara a Liz mewn dosbarth celf ar-lein yn ystod pandemig Covid ar ôl i Barbara ddechrau gwneud gwaith celf am y tro cyntaf ar ôl dioddef salwch difrifol, lle y bu’n brwydro am ei bywyd.

Pan gollodd Liz ei gŵr y llynedd, penderfynont ganolbwyntio eu hangerdd dros waith celf ar sefydlu grŵp wythnosol newydd a fyddai’n cynnig cyfle i bobl ddod ynghyd.

Sefydlwyd Blitz Art ac mae wedi tyfu ac erbyn hyn, mae dwsin o bobl yn ei fynychu yn rheolaidd.

Dywedodd Liz: “Rydw i wrth fy modd yn addysgu ac mae cymryd rhan yn y grŵp wedi bod yn help eithriadol i mi ers i mi golli fy ngŵr. Rydw i’n edrych ymlaen i’r dosbarth bob wythnos ac rydw i’n mwynhau treulio amser gartref yn paratoi ar gyfer pob gwers. Mae’n bleser mawr pan fyddwch yn gallu gweld bod y myfyrwyr yn mwynhau.”

Cafodd y grŵp help gan Dai Wales & West, a ddarparodd gyllid ar gyfer deunyddiau celf.

Bydd Liz a Barbara yn addysgu sgiliau newydd i aelodau’r grŵp bob wythnos, gan amrywio o sgiliau dyfrlliw a chlymau zen i greu gemwaith.

“Rydw i’n dwli addysgu ac mae bod yn rhan o’r grŵp wedi fy helpu yn sylweddol ar ôl i mi golli fy ngŵr.”

Liz Metcalfe, arlunydd

Ond law yn llaw â’r dysgu, cael cyswllt gyda phobl arall sydd bwysicaf, dywedodd Barbara.

“Ceir gwersi penodedig bob wythnos, ond mae’n ymwneud yn fwy â mynd allan a chyfarfod pobl a rhoi cynnig arni,” dywedodd. “Rydw i’n hapus bod pobl yn dod ynghyd, maent wrth eu bodd.”

Mae Eirwen Price yn mynychu’r grŵp bob wythnos ac mae’n mwynhau’r gwmnïaeth a’r awyrgylch digyffro.

“Ymunais gan ei fod yn rhywbeth gwahanol ac roeddwn yn dymuno cyfarfod pobl newydd,” dywedodd. “Nid oeddwn yn meddwl y byddwn yn gallu arlunio, ond rydw i’n dwli dod yma. Rydym yn cael cymaint o hwyl.”

Blitz art group runs every Monday at Sylvester Court in Wrexham

Blitz Art yw uchafbwynt yr wythnos i Sharon Kite.

Dywedodd: “Y tro diwethaf y gwnes i unrhyw waith celf oedd yn yr ysgol flynyddoedd mawr yn ôl, felly mae hi wedi bod yn braf ailgydio ynddo. Byddaf yn ymgolli ynddo i ddweud y gwir, a bydd yr amser yn hedfan.”

Mae’r grŵp yn cynnig cysylltiad cymdeithasol pwysig i Siân Hope hefyd.

“Rydw i wedi bod yn gwneud gwaith grefft ers blynyddoedd, felly pan soniodd Liz ei bod hi’n bwriadu sefydlu’r grŵp, roeddwn yn awyddus iawn i gymryd rhan,” dywedodd.

“Mae dysgu pethau newydd drwy’r amser yn llawer o hwyl. Rydw i wedi cyfarfod pobl newydd a hen ffrindiau.”

Andrew Price

andrew.price@wwha.co.uk07881 379 098 Andrew yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer Gogledd Cymru