Newyddion

24/04/2023

Sut allwch chi roi hwb i’ch pensiwn?

A fyddech chi’n gwrthod ychydig arian ychwanegol? Nid oes nifer o bensiynwyr yn sylweddoli y gallent fod yn gymwys i gael Credyd Pensiwn. Ar hyn o bryd, mae bron i filiwn o bensiynwyr ar draws y DU, y mae nifer ohonynt wedi bod yn talu i mewn i’r system ers blynyddoedd ac y maent yn colli allan ar daliadau.

Yma, mae ein Swyddogion Cymorth Tenantiaeth yn esbonio’r hyn y mae rhai preswylwyr oedran pensiwn yn colli allan arno a sut y gallant gael budd.

Beth yw Credyd Pensiwn?
Mae’r Credyd Pensiwn yn fudd-dal ar gyfer pobl sydd dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac sydd ar incwm isel. Mae’n rhywbeth ar wahân i’ch Pensiwn y Wladwriaeth ac fe allech gael £69 neu fwy yr wythnos i ychwanegu at eich incwm. Efallai y byddwch yn cael help ychwanegol hefyd os ydych yn ofalwr, yn dioddef anabledd difrifol, neu’n gyfrifol am blentyn neu berson ifanc. Gellir ôl-ddyddio Credyd Pensiwn am dri mis, felly po gyflymaf y gallwch ddarganfod a ydych chi’n gymwys, y cyflymaf y byddwch yn cael budd.I ddarganfod a ydych chi’n gymwys, gallwch ddefnyddio’r cyfleuster cyfrifo Credyd Pensiwn
Bydd angen manylion eich holl incwm a’ch cynilion arnoch.

Pam bod pobl yn colli allan?
NID yw hwn yn awtomatig, felly bydd yn rhaid i chi hawlio ac nid oes nifer fawr o bensiynwyr hŷn yn gwybod a ydynt yn gymwys i wneud cais neu beidio. Mae eraill yn credu na allant wneud cais gan bod ganddynt rai cynilion, ond gallwch gael cynilion o £10,000 neu fwy a bod yn gymwys o hyd efallai. Diystyrir y £10,000 cyntaf sydd gennych ar ffurf cynilion. Efallai y byddwch yn cael y Credyd Pensiwn hyd yn oed os ydych yn cael incwm arall hefyd.

Sut allaf ddarganfod a wyf yn gymwys?
Mae’r union reolau ynghylch pwy sy’n gallu cael Credyd Pensiwn yn eithaf cymhleth, ac yn gyffredinol, efallai eich bod yn gymwys os ydych chi’n hawlio Pensiwn y Wladwriaeth (66 oed neu’n hŷn ar hyn o bryd).
Mae Credyd Gwarant yn cynnig arian ychwanegol i’r rhai ar incwm isel. Efallai y byddwch yn gymwys os ydych:

  • yn sengl ac mae cyfanswm eich incwm wythnosol yn llai na £182 (neu £201 o fis Ebrill 2023)
  • yn bâr, ac mae’r ddau ohonoch wedi cyrraedd oedran cael pensiwn, ac mae eich incwm wythnosol yn llai na £278 (£306 o fis Ebrill 2023)

Diystyrir incwm gan fudd-daliadau anabledd fel DLA, PIP neu Lwfans Gweini, fel incwm.

Gall Credyd Cynilion gynnig ychydig help i’r rhai ar incymau isel sydd wedi llwyddo i gynilo ychydig yn fwy o incwm ar gyfer eu hymddeoliad, megis pensiwn gweithle. Rhaid eich bod wedi cyrraedd oedran cael pensiwn cyn mis Ebrill 2016 (71+ oed) er mwyn bod yn gymwys i gael Credyd Cynilion.

Gallwch droi at gov.uk/pension-credit neu ffonio’r Gwasanaeth Pensiwn hefyd ar 0800 99 1234.

Pam bod Credyd Pensiwn yn bwysig?
Mae’n agor llwybr i fod yn gymwys i fanteisio ar ostyngiadau eraill a chymorth gyda biliau, sy’n werth tua £1,000 y flwyddyn a’r Gostyngiad Cartref Cynnes, sy’n werth £140 y flwyddyn. Os ydych yn hawlio Credyd Pensiwn, gallwch gael help arall, megis:

  • Budd-dal Tai er mwyn helpu i dalu eich taliadau rhent
  • gostyngiad Treth Gyngor trwydded deledu am ddim os ydych chi’n 75 oed neu’n hŷn
  • help gyda thriniaeth ddeintyddol GIG, sbectolau a chostau trafnidiaeth er mwyn mynychu apwyntiadau ysbyty, os ydych chi’n cael math penodol o Gredyd Pensiwn
  • help gyda’ch costau gwresogi trwy gyfrwng Cynllun Gostyngiad Cartref Cynnes
  • gostyngiad ar wasanaeth ailgyfeirio y Post Brenhinol os byddwch yn symud tŷ
  • bod yn gymwys i gael Taliadau Costau Byw y Llywodraeth.

“Diolch i’r help a gefais, rydw i’n teimlo y gallaf ymdopi.”

Yn dilyn marwolaeth ei gŵr, roedd Mrs Evans* (nid ei henw go iawn) yn ei chael hi’n anodd cael deupen llinyn ynghyd. Roedd y pâr wastad wedi llwyddo i dalu eu rhent a’u holl filiau mewn pryd, gan gynnwys eu bwyd, eu gwresogi a’u rhent, gan ddefnyddio eu Pensiwn y

Wladwriaeth, a oedd yn fach. Ond pan fu farw ei gŵr, collodd Mrs Evans dros £200 o’i hincwm wythnosol.

Cafodd gyfarfod gyda’i Swyddog Cymorth Tenantiaeth, a ystyriodd ei hamgylchiadau ac a lwyddodd i’w helpu gyda hawliad am Lwfans Gweini. Roedd angen help ar Mrs Evans yn ystod y dydd oherwydd ei chyflwr iechyd. Dyfarnwyd Lwfans Gweini safonol o £61 yr wythnos iddi.

O ganlyniad, llwyddodd i hawlio Credyd Pensiwn. Roedd y Credyd Gwarant wedi ychwanegu at ei hincwm, gan roi £252 yr wythnos iddi, ac roedd hyn wedi codi cyfanswm ei hincwm i £312 yr wythnos. Yna, llwyddodd i sicrhau budd-daliadau er mwyn ei helpu i dalu ei rhent a’i Threth Gyngor. Roedd yn gymwys i gael Taliadau Costau Byw y Llywodraeth hefyd, gan gynnwys y Taliad Anabledd.

Dywedodd: “Nid oeddwn yn gwybod ble i droi. Roedd fy ngŵr wedi gofalu am ein biliau a phan fu farw, roeddwn ar goll.

“Diolch i’r help a gefais gan Dai Wales & West, rydw i’n teimlo y gallaf ymdopi nawr.”

 

 

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk 07484 911100 Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.