Newyddion

25/07/2019

Helpu i roi stop ar blastig

Mae gwastraff plastig yn broblem enfawr ar draws y byd felly rydym wedi penderfynu cymryd camau i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd.

Efallai eich bod wedi sylwi bod y deunydd lapio ar gyfer y rhifyn hwn o gylchgrawn In Touch yn wahanol. Mae hyn oherwydd ein bod wedi cyfnewid y bagiau postio plastig ailgylchadwy yr oeddem yn eu defnyddio yn flaenorol am rai newydd wedi’u gwneud o ffilm bioplastig.

Mae bioblastigau yn ddewis amgen i blastig ac fe’u cynhyrchir gan ddefnyddio adnoddau adnewyddadwy naturiol a chynaliadwy fel tatws yn hytrach nag olew crai. Mae defnyddio cynhyrchion tatws fel startsh tatws a gwastraff arall o’r diwydiant bwyd yn golygu bod y deunydd lapio yn hollol ecogyfeillgar ac mae modd ei gompostio. Gallwch ei roi allan gyda’ch gwastraff bwyd, eich compost gardd neu ym miniau ailgylchu gwyrdd y cyngor, ac nid yw’n rhyddhau tocsinau niweidiol ychwaith.

Rydym wedi bod yn gweithio gydag Xpedient Print Services, cwmni argraffu o Gymru, er mwyn sicrhau’r bagiau newydd fel rhan o’n hymrwymiad i’r amgylchedd.

Un cam yw hwn yn ein hymrwymiad i leihau ein dibyniaeth ar blastig untro. Gall rhai plastigau gymryd blynyddoedd i bydru. Yn ogystal, byddant yn dadelfennu ac yn creu darnau llai o faint o’r enw ‘microblastigau’, sy’n gallu halogi ein pridd a’n dyfrffyrdd a’n moroedd, gan ladd bywyd gwyllt.

Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr Grŵp Tai Wales & West: “Mae plastigau untro wedi datblygu i fod yn broblem enfawr i’r amgylchedd. Wrth i Fforwm Economaidd y Byd amcangyfrif bod tua 150 miliwn tunnell o blastig yn arnofio yn ein moroedd ar hyn o bryd, mae angen i ni gyd gymryd camau i newid.

“Mae rhai pobl o’r farn na fydd eu cyfraniad unigol nhw yn gwneud rhyw lawer o wahaniaeth, ond pe bai pob un ohonom yn gwneud un newid, fe allai.”
Anne Hinchey, Prif Weithredwr Grŵp Tai Wales & West

“Mae sefydliadau ac elusennau cenedlaethol yn dechrau defnyddio bioblastigau er mwyn postio eu deunydd a chredwn mai ni yw’r gymdeithas tai gyntaf yng Nghymru i wneud y newid hwn fel rhan o’n hymrwymiad parhaus i wneud gwahaniaeth i gynaladwyedd ac i’r amgylchedd.”

Yn ddiweddar, dyfarnwyd Lefel 2 Gwobr y Ddraig Werdd i Dai Wales & West am ei gwaith rheolaeth amgylcheddol.

Mae rhai o’n mentrau gwyrdd a gynhaliwyd yn ddiweddar yn cynnwys:

  • Datblygiad tai newydd o 14 o gartrefi sy’n gallu cynhyrchu eu hynni eu hunain ym Mryn Bragl, Pen-y-bont ar Ogwr, a ariannir yn rhannol gan Raglen Tai Arloesol LlC.
  • Defnyddio mwy o bren a dyfir yn y wlad hon yn ein cynlluniau, er enghraifft mewn 11 o fflatiau newydd yn ein cynllun yn Llandrillo-yn- Rhos, Cwrt Rhys Fynach
  • Gosod paneli solar a mwy o ddeunydd inswleiddio yn ein cartrefi yn gyson, a gosod pympiau gwres ffynhonnell aer mewn nifer o’n cartrefi
  • Buddsoddi £35 miliwn. dros y dair blynedd nesaf I uwchraddio ffenestri a drysau, adnewyddu boeleri a sicrhau bod ein cartrefi yn arbed mwy o ynni.

 

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk 07484 911100 Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.