Newyddion

22/07/2019

Tai Wales & West yn Noddi Pencampwriaeth Tynnu Rhaff Cymru

Gwelwyd timau Tynnu Rhaff gorau Cymru yn dod ynghyd yn nhref glan môr Aberaeron ar gyfer Pencampwriaeth Cymru.

Croesawyd y digwyddiad i’r dref am yr ail flwyddyn o’r bron, diolch i nawdd Tai Wales & West, a roddodd £3,000 i’r trefnwyr, Pwyllgor Gwella Tref Aberaeron (TIC) er mwyn talu’r gost o gynnal y digwyddiad poblogaidd hwn.

Ar ddydd Sadwrn 13 Gorffennaf, gwelwyd 48 tîm o wyth o 16 o glybiau ar draws Cymru yn cystadlu ar Gae y Sgwâr, Aberaeron, i ddod i’r brig fel pencampwyr Cymru.

Dywedodd Julian Driver, Cadeirydd TIC Aberaeron:  “Mae Pwyllgor Gwella Tref Aberaeron yn ddiolchgar i Dai Wales & West am ei chefnogaeth barhaus unwaith eto eleni.  Bydd yr holl arian a godir yn ystod pencampwriaethau eleni yn cael ei wario ar wella cysylltiadau llwybrau troed cyhoeddus o gwmpas y dref, gwella ein parciau a’n caeau chwarae a datblygu rhaglen o ddigwyddiadau.

“Rydym yn ddiolchgar i Dai Wales & West am ei chefnogaeth barhaus unwaith eto eleni.”
Julian Driver, Cadeirydd TIC Aberaeron

“Rydym yn falch bod Cymdeithas Tynnu Rhaff Cymru wedi caniatáu i ni gynnal y digwyddiad gwych hwn i’r teulu yn Aberaeron unwaith eto eleni.  Mae Tynnu Rhaff yn gystadleuaeth wych i’w gwylio ac roedd pawb a fu’n cymryd rhan wedi gwylio gweddill y cystadlu a chael amser gwych.”

Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr Grŵp Tai Wales & West:  “Mae aelodau Pwyllgor Gwella Tref Aberaeron yn gweithio’n galed i drefnu digwyddiadau megis Pencampwriaeth Tynnu Rhaff Cymru a’r carnifal blynyddol.

“Mae’r digwyddiadau hyn yn dwyn y gymuned gyfan ynghyd ac yn codi symiau mawr o arian i elusennau a mudiadau lleol, felly rydym yn hapus i helpu trwy eu cefnogi a gwneud gwahaniaeth i’r gymuned.”
Anne Hinchey, Prif Weithredwr Grŵp Tai Wales & West

Y llynedd, trefnodd TIC Aberaeron bod plac coffa yn cael ei osod ar gyfer cyn gadetiaid yr Awyrlu y dref a bod y gatiau a’r gatiau tro ar Gae y Sgwâr yn cael eu hatgyweirio.  Yn ystod y flwyddyn flaenorol, llwyddodd y pwyllgor i godi £47,000 i brynu cerbyd Ymatebwr Cyntaf newydd a garej ar gyfer y dref.

 

 

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk 07484 911100 Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.