Newyddion

13/08/2019

Tai Wales & West yn rhoi £10,000 er mwyn cynorthwyo’r rhai sydd wedi dioddef masnachu pobl a chaethwasiaeth fodern

Mae sefydliad sy’n cyflogi ac yn hyfforddi’r rhai sydd wedi goroesi caethwasiaeth a masnachu pobl i fod yn weithwyr rhostio coffi, wedi cael £10,000 er mwyn tyfu.

Mae Bwrdd y darparwr tai, Tai Wales & West, wedi dewis rhoi rhodd flynyddol o £10,000 i Manumit Coffee dros y dair blynedd nesaf.

Bob blwyddyn, bydd y Bwrdd yn dewis cefnogi elusennau a sefydliadau sy’n gweithio i helpu grwpiau o bobl difreintiedig ar draws Cymru.  Mae elusennau eraill a gynorthwywyd dros y blynyddoedd diwethaf yn cynnwys Nyrsys Admiral Dementia UK ac un o’r elusennau mwyaf blaenllaw sy’n gweithio gyda’r digartref yng Nghymru, Llamau.

Mae cwmni Manumit Coffee o Gaerdydd yn cynnig urddas a gobaith i’r rhai sydd wedi goroesi caethwasiaeth fodern.  Mae’n cyflogi dynion a menywod sydd wedi dioddef camfanteisio gan fasnachwyr pobl a masnachwyr caethwasiaeth fodern.  Trwy dalu Cyflog Byw iddynt a’u hyfforddi i fod yn weithwyr rhostio coffi a baristas, rhoddir cymorth iddynt i feithrin eu hyder a help i symud ymlaen i gyfleoedd gwaith eraill.

Yn Manumit (sy’n golygu rhyddhau o gaethwasiaeth neu ryddhau rhywun), caiff ffa coffi gwyrdd a gaiff eu sicrhau gan dyfwyr moesegol yn Affrica ac America Ladin, eu rhostio mewn sypiau bach a’u pacio dan frand Global Blend, a’u gwerthu i siopau coffi, swyddfeydd, eglwysi a rhestr o danysgrifwyr coffi ar-lein sy’n tyfu.

Mae Dai Hankey, gweinidog eglwysig lleol a sefydlodd Manumit dair blynedd yn ôl gyda’i gyd-gyfarwyddwr, Nick Davis, yn esbonio:  “Yr ystadegyn syfrdanol yw bod rhywun yn dod yn gaethwas bob 30 eiliad.”

Yr ystadegyn syfrdanol yw bod rhywun yn dod yn gaethwas bob 30 eiliad.” 

Dai Hankey, Manumit Coffee

“Sefydlom Manumit er mwyn cynnig gobaith i oroeswyr masnachu pobl a’r cyfle i ailgydio yn eu bywydau.  Trwy weithio i Manumit, telir Cyflog Byw i oroeswyr a chânt hyfforddiant a fydd yn eu galluogi i symud ymlaen a chwilio am waith arall. 

“Mae rhai o’r goroeswyr yn teimlo’n ofnus, yn ofidus ac maent yn dioddef pyliau o banig pan fyddwn yn eu cyfarfod yn gyntaf.  Mae eu gweld yn meithrin hyder ac ymddiriedaeth ac yn dechrau edych ymlaen at ddyfodol gwell trwy wneud gwaith ystyrlon a thrwy’r cymorth a’r caredigrwydd parhaus yr ydym yn ei gynnig, yn rhywbeth mor werth chweil.” 

Mae’r goroeswyr sy’n gweithio ym Manumit yn cynnwys Nadia, menyw ifanc o Affrica a fasnachwyd i’r diwydiant rhyw.  Ers iddi ddechrau gweithio i Manumit flwyddyn yn ôl, mae wedi sicrhau ei chymhwyster barista sylfaenol ac mae’n gwneud gwaith rhan-amser mewn siop goffi leol.  Mae wedi meithrin digon o hyder i ddychwelyd i’r coleg hefyd. 

Ychwanegodd Dai:  “Mae’r rhodd gan Dai Wales & West yn anhygoel.  Bydd yn caniatáu i ni dyfu fel menter gymdeithasol ac yn y pen draw, rhoi gobaith i fwy o oroeswyr trwy gynnig gwaith ystyrlon ac am dâl iddynt.” 

Mae pawb sy’n prynu eu coffi arbenigol yn helpu pobl i dorri cadwyni caethwasiaeth, gan gynnig gobaith i’r rhai y mae hyn wedi gadael ei ôl ar eu bywydau.” 

Alex Ashton, Cadeirydd WWH

Dywedodd Alex Ashton, Cadeirydd WWH:  “Mae Manumit yn cyflawni rôl pwysig wrth helpu i oresgyn caethwasiaeth fodern ar sawl lefel. 

“Trwy hyfforddi a chyflogi’r rhai sydd wedi goroesi caethwasiaeth fodern fel gweithwyr rhostio coffi, sicrhau ffa coffi arbenigol gan gyflenwyr moesegol nad ydynt yn ymwneud ag unrhyw gaethwasiaeth a buddsoddi eu holl elw mewn prosiectau lleol sy’n ceisio trechu caethwasiaeth, maent yn helpu’r dynion a’r menywod hynny sydd wedi dioddef camfanteisio ofnadwy gan fasnachwyr a masnachwyr caethwasiaeth fodern, i ailgydio yn eu bywydau. 

“Mae’n bleser gan WWH eu cynorthwyo i dyfu.  Mae pawb sy’n prynu eu coffi arbenigol yn helpu pobl i dorri cadwyni caethwasiaeth, gan gynnig gobaith i’r rhai y mae hyn wedi gadael ei ôl ar eu bywydau.” 

I gael gwybod sut y gallwch chi gefnogi Manumit neu os hoffech brynu eu coffi, trowch at www.manumitcoffee.co.uk 

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk 07484 911100 Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.