Newyddion

22/12/2022

Help 24 awr i breswylwyr mewn angen

Rydym yn gweithio gyda sefydliad i ddarparu cymorth ac arweiniad arbenigol cyfrinachol 24 awr y dydd i’n holl breswylwyr, ble bynnag a phryd bynnag y bydd ei angen arnoch efallai.

Mae’r Gwasanaeth Cymorth a Lles i Denantiaid, a gaiff ei redeg gan Life & Progress, yn wasanaeth cymorth penodedig ar-lein a dros y ffôn sy’n gyfrinachol ac ar gael yn rhad am ddim unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos.  Mae’r gwasanaeth yn cynnwys mynediad i gymorth yn y fan a’r lle, arbenigwyr cyfreithiol, ariannol ac mewn gwybodaeth gyffredinol, porth ar-lein a chyfleuster sgwrsio byw i’r rhai nad ydynt yn teimlo’n ddigon cyffyrddus i siarad dros y ffôn.

Mae rhai o’r materion y mae’r gwasanaeth cymorth yn rhoi sylw iddynt yn cynnwys y canlynol, ond nid ydynt wedi cael eu cyfyngu i’r rhain: 

Cymorth Emosiynol Canllawiau Ariannol Canllawiau Cyfreithiol Gwybodaeth Gyffredinol Gwybodaeth am Ofal Plant / Gofal ar gyfer Dibynyddion
Gorbryder ac iselder Dyled Materion defnyddwyr Budd-daliadau’r wladwriaeth Gwasanaethau gofal plant lleol
Rheoli dicter Cymorth gyda chostau byw Troseddau moduro Aflonyddu yn y gwaith Rhianta pobl ifanc yn eu harddegau
Profedigaeth Buddsoddi Yswiriant Colli gwaith Ymgymryd â rôl gofalu
Perthynas yn chwalu Canllawiau am gynilion a phensiynau Cytundebau credyd Pryderon teuluol Budd-daliadau a grantiau

Cyfrinachedd
Mae’r gwasanaeth cymorth a gynigir gan Life & Progress yn hollol gyfrinachol.

Cymorth ariannol i dalu costau byw
Mae sefydlogrwydd ariannol ar frig rhestr nifer fawr o bobl ar yr adeg hon o’r flwyddyn.  Mae’r Gwasanaeth Cymorth a Lles Tenantiaid yn cynnig cyfeiriad a chanllawiau ynghylch sut i deimlo’n fwy hyderus am eich sefyllfa ariannol.

Defnyddiwch y porth ar-lein
Mae’r porth ar-lein www.tsws-assist.co.uk yn cynnwys cyfoeth o offerynnau.  Mae’r rhain yn cynnwys offeryn defnyddiol sy’n cynnig diagnosis o ddyled, cynllunwyr cyllideb, erthyglau hunan-gymorth, gweminarau, taflenni sy’n cynnig cyngor defnyddiol, a llinell ffôn i’ch cysylltu â chynghorydd/cwnselydd dyledion.

Ffoniwch arbenigwr gwybodaeth rhadffôn TSWS
Mae canllawiau ariannol ar gael gan y rhif rhadffôn sy’n cynnig yr arweiniad cyfrinachol a diduedd diweddaraf am y cymorth sydd ar gael i chi.  Er enghraifft, budd-daliadau’r Llywodraeth, yn ogystal â chamau y gallwch eu cymryd i reoli eich sefyllfa ariannol yn well.

Ffoniwch gwnselwyr rhadffôn TSWS
Gall ein sefyllfa ariannol gael effaith uniongyrchol ar ein lles meddyliol, felly mae’r gwasanaeth yn cynnig mynediad cyfrinachol ac am ddim i gwnselwyr profiadol a chymwys iawn sydd ar gael unrhyw bryd.  Ni fydd angen rheswm penodol arnoch dros ffonio.  Yn ystod cyfnodau cythryblus, efallai y byddwch yn profi teimladau na allwch eu hesbonio.  Mae eu cwnselwyr ar gael yn rhad ac am ddim i siarad 24/7/365 ddiwrnod y flwyddyn.  Felly os ydych chi’n teimlo’n anesmwyth, dan straen, yn ofidus neu unrhyw ffordd arall;  PLIS ffoniwch 0330 094 8845.

Rydym yn darparu’r cymorth hwn gan ein bod yn ymboeni am ein preswylwyr ac rydym yn dymuno i chi gael gofal a chymorth ar y lefel uchaf ag y bo modd.

Gwasanaeth Cymorth a Lles Tenantiaid Rhadffôn:  0330 094 8845

Gwefan:  www.tsws-assist.co.uk

 

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk 07484 911100 Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.