Newyddion

07/02/2023

Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau – Stori Megan

Ar hyn o bryd, mae Megan Crowley yn dilyn Prentisiaeth lefel uwch mewn Diogelwch TGCh gyda Thai Wales & West. Dros flwyddyn i mewn i’w chymhwyster, cawsom sgwrs gyda Meg i glywed am ei chwrs, ei phrofiad gyda Thai Wales & West a sut y mae ei phrentisiaeth yn helpu i feithrin ei sgiliau ar gyfer y dyfodol.

C: Beth oedd wedi dy ddenu at Dai Wales and West yn y lle cyntaf?

Dwi’n credu taw moeseg y cwmni a’r bobl â’m denodd at WWH yn y lle cyntaf. Ar ôl ymchwilio a darganfod ei fod yn gwmni sydd wedi ennill gwobrau ac sy’n ceisio gwneud gwahaniaeth, roeddwn yn gwybod fy mod yn dymuno bod yn aelod o’r tîm. Nid oeddwn i fyth wedi ystyried gweithio yn y sector tai o’r blaen, ond trwy ddarllen y wefan, roedd gennyf ddiddordeb ar unwaith. Trwy gydol fy mhroses gyfweld, cyfarfûm â nifer o bobl gyfeillgar, yr oeddent yn cynrychioli ymagwedd gadarnhaol y cwmni a’r gwerthoedd craidd, a gafodd effaith fawr arnaf. Mae pawb yr wyf wedi eu cyfarfod yn WWH yn dwli ar eu swydd, ac roedd hwn yn rhywbeth a oedd yn apelgar iawn i mi, gan fy mod wedi treulio amser yn gweithio mewn amgylchedd negyddol yn flaenorol. Roeddwn i wastad wedi dymuno cwblhau prentisiaeth TGCh ers yr oeddwn yn ifanc, a chyn gynted ag yr oedd cyfle ar gael yn WWH, roedd yn cynnwys popeth yr oeddwn yn edrych amdano.

C: A fyddet ti’n gallu sôn ychydig am dy brentisiaeth: Beth ydyw? Beth yw’r cymhwyster y byddi yn ei sicrhau? Sut caiff dy amser ei rannu?

Ar hyn o bryd, rydw i’n cwblhau prentisiaeth lefel uwch mewn Diogelwch TGCh. Ar ôl i mi gwblhau hon, byddaf yn sicrhau cymhwyster Lefel 4, sy’n cyfateb â blwyddyn gyntaf gradd prifysgol. Rydw i’n gweithio gyda chwmni o’r enw ALS law yn llaw â WWH, lle y byddaf yn cwblhau modiwlau ac aseiniadau. Ceir amserlen o 2 flynedd i gwblhau’r holl fodiwlau, ond rydw i’n debygol o orffen 6 mis yn gynnar! Bydd hyn yn golygu y gallaf dreulio mwy o amser yn ymgysylltu â’r lleoliad gwaith go iawn, gan gysgodi gwaith mewn gwahanol adrannau ym maes TGCh, yn ogystal ag yn y busnes, fel y gallaf feithrin fy sgiliau a’m gwybodaeth ymhellach.

“Mae’r bobl yr wyf wedi eu cyfarfod yn WWH wedi bod mor gefnogol ac mae pob un wedi fy helpu pan fu angen gwneud hynny. Rydw i wastad yn cael yr holl adnoddau y mae eu hangen arnaf er mwyn cynorthwyo fy nysgu ac mae fy nghyfnod yma eisoes wedi bod yn well na’r disgwyl.”

C: Beth yw dy hoff beth am dy brentisiaeth hyd yn hyn?

Rydw i wrth fy modd gyda’r cydbwysedd rhwng gwaith go iawn ac aseiniadau ysgrifenedig. Yn ffodus i mi, mae fy rheolwr llinell yn awyddus iawn i fanteisio ar fy mhrofiad yma, a bydd wastad yn sicrhau bod fy modiwlau yn ALS yn cysylltu â’r gwaith yr ydym yn ei wneud yn WWH. Mae hyn yn fy helpu i ddeall y modiwl yn llwyr ac ni fyddwn yn symud ymlaen nes byddaf yn gwneud hynny. O’r hyn yr wyf wedi ei ddysgu hyd yn hyn yn fy mhrentisiaeth, rydw i eisoes yn gallu cyfrannu at brosiectau a thrafodaethau mewn ffordd ystyrlon, ac mae hyn wedi peri i mi deimlo fy mod yn ddefnyddiol ac yn aelod gwerthfawr o’r tîm. Rydw i’n dwli dysgu a chymryd rhan, ac fel prentis, mae’r cyfleoedd hyn yn ddiddiwedd.

C: Sut fu’r cymorth gan WWH trwy gydol dy brentisiaeth hyd yn hyn?

Er mai prentis wyf i, nid oes unrhyw un yn y cwmni fyth wedi peri i mi deimlo’n israddol, gan bod fy marn a’m hystyriaethau wastad yn cael eu clywed. Mae’r bobl yr wyf wedi eu cyfarfod yn WWH wedi bod yn hynod gefnogol ac mae pob un yn fy helpu yn ôl yr angen. Rydw i wastad yn cael yr holl adnoddau y mae eu hangen arnaf i gynorthwyo fy nysgu ac mae fy nghyfnod yma eisoes wedi bod yn well na’r disgwyl. Mae bod yn rhan o gynllun Datblygu ein Gweithlu ein Hunain wedi sicrhau fy mod wedi dysgu am y busnes cyfan, a fu’n gyfle gwych, gan nad oeddwn fyth wedi gweithio ym maes tai o’r blaen. Gall cychwyn mewn cwmni newydd fod yn brofiad sy’n codi ofn arnoch, ond roedd cael tîm Datblygu ein Gweithlu ein Hunain, a oedd yn yr un cwch â mi, yn system gymorth wych.

C: Sut mae dy gyfnod gyda WWH wedi dy helpu i feithrin dy sgiliau ar gyfer dy ddyfodol?

Rydw i’n dysgu ac yn meithrin sgiliau newydd bob dydd. Ni fydd unrhyw ddau ddiwrnod yr un fath, ac mae wastad gwaith i’w wneud. Trwy gyfrwng Datblygu ein Gweithlu ein Hunain, rydw i wedi cael y cyfle i gysgodi’r gwaith mewn gwahanol adrannau ac mae’n syndod faint y byddwch yn ei ddysgu yn ystod y sesiynau hyn. Nid yn unig y mae’r brentisiaeth wedi meithrin fy sgiliau ym maes technoleg, ond mae WWH wedi fy helpu i feithrin hyder a gwybodaeth yn fy mywyd bob dydd. Mae cymaint o unigolion diddorol yn y busnes a fydd yn dysgu rhywbeth newydd i chi bob dydd. Rydw i’n unigolyn mwy cadarnhaol a chymdeithasol, ac mae hyn wedi dysgu cryn dipyn i mi. Mae gwerthoedd craidd WWH wedi cynnig gwahanol bersbectif i mi am y ffordd yr wyf yn gweithio ac yn gyffredinol, a byddaf wastad mor ddiolchgar am hyn.

I gael gwybod mwy am brentisiaethau yng Ngrŵp Tai Wales & West, trowch at dudalen Datblygu ein Gweithlu ein Hunain ar y wefan, neu cysylltwch â careers@wwha.co.uk.

Andrew Price

andrew.price@wwha.co.uk07881 379 098 Andrew yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer Gogledd Cymru