Newyddion

17/02/2020

Canolfan loeren newydd Banc Bwyd Wrecsam yng Nghanolfan Adnoddau Cymunedol Hightown

Mae cymdeithas tai wedi gwneud ymrwymiad gyda Banc Bwyd Wrecsam er mwyn helpu teuluoedd yn y dref sydd mewn sefyllfa o dlodi o ran bwyd, trwy lansio canolfan loeren newydd.

Bellach, bydd unrhyw un sydd â thaleb banc bwyd yn gallu ei gyfnewid am dri diwrnod o fwyd mewn argyfwng yng Nghanolfan Adnoddau Cymunedol Hightown yn Fusilier Way, Wrecsam.

Bydd y ganolfan, a gaiff ei rhedeg gan Dai Wales & West, ar agor rhwng 2pm a 3.30pm bob dydd Gwener er mwyn i deuluoedd gasglu parseli bwyd a chael cyngor a chymorth gan dîm o wirfoddolwyr ymroddedig.

Dywedodd Sally Ellinson, Rheolwr Prosiect ar gyfer Banc Bwyd Wrecsam, y byddai’r ganolfan yn ychwanegiad gwerthfawr i’w rhwydwaith o ganolfannau lloeren yn y dref – y mae ganddynt saith erbyn hyn.

Dywedodd Sally:  “Roeddem yn dymuno agor canolfan loeren ar brynhawn dydd Gwener mewn ardal lle y gwelir angen amdani.  Mae gennym un ym Mharc Caia gerllaw ar hyn o bryd, ond roeddem yn teimlo y byddai’r gymuned yn cael budd o’r ganolfan ychwanegol hon yn Hightown.

“Rydym yn falch o gael gweithio mewn partneriaeth â Thai Wales & West er mwyn cynnig lleoliad arall i deuluoedd sydd mewn argyfwng i gasglu eu parseli bwyd ohono.”

Yn ddiweddar, dechreuodd y ganolfan gymunedol gynnal clwb brecwast yn ystod y gwyliau ysgol er mwyn cynnig brecwast am ddim i deuluoedd a chael cyfle i dreulio amser gwerthfawr yng nghwmni ei gilydd.

Dywedodd Rheolwr y Ganolfan, Annette Bryden:  “Rydym yn teimlo’n angerddol ynghylch gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl yn yr holl gymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu ar draws Cymru.

“Mae’r ganolfan yn gyfleuster cymunedol sefydledig yn Wrecsam a mawr obeithiwn y bydd yn cynnig lle newydd cyfleus lle y gall pobl gasglu eu parseli bwyd mewn argyfwng.”

Darparir talebau bwyd gan nifer o asiantaethau sy’n gweithio gyda’r Banc Bwyd ac mae modd eu cyfnewid am barseli, sy’n cynnwys digon o fwyd annarfodus er mwyn paratoi tri phryd y dydd am dri diwrnod.

Bydd canolfan loeren Hightown yn cyd-fynd â’r canolfannau sy’n bodoli eisoes yn Bradley Road, Parc Caia, Gwersyllt, Rhosddu, Cefn Mawr a Bodhyfryd.

“Rydym yn dymuno helpu pobl ym mhob ffordd y gallwn wneud hynny,” ychwanegodd Sally.  “Mae croeso i bawb sy’n dod i gasglu parsel bwyd aros am baned a chael sgwrs gyda’n gwirfoddolwyr.

“Mae effaith banc bwyd Wrecsam yn enfawr, bwydom 5000 o bobl y llynedd ac rydym wedi cael rhai pobl sydd wedi dod atom gan ddweud ein bod wedi achub eu bywyd.”

Mae Canolfan Adnoddau Cymunedol Hightown ar agor ar gyfer casgliadau Banc Bwyd rhwng 2pm a 3.30pm bob dydd Gwener.

I gael gwybod mwy am Fanc Bwyd Wrecsam.

Andrew Price

andrew.price@wwha.co.uk07881 379 098 Andrew yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer Gogledd Cymru