Newyddion

11/02/2020

WWH yn cynnal sesiynau galw heibio i drafod dyfodol safle Ysbyty Aberteifi

Cynlluniau i adeiladu swyddfeydd a chartrefi ar safle Ysbyty Aberteifi

Gofynnir i bobl Aberteifi fynegi eu barn am y ffordd orau o ddefnyddio safle hen Ysbyty Aberteifi.

Bydd y darparwr tai yng Ngorllewin Cymru, Tai Wales & West, yn cynnal sesiwn galw heibio yn Aberteifi er mwyn cynnig y cyfle i bobl leol drafod y gwaith o adfywio safle ysbyty y dref yn y dyfodol.

Mae WWH yn dymuno symud ei phrif swyddfa yng Ngorllewin Cymru i’r dref gan nad yw ei swyddfeydd presennol yn ddigon mawr mwyach. Bydd angen i’r swyddfeydd gynnig lle ar gyfer tua 60 o staff, yn ogystal â chynnwys ystafelloedd cyfarfod a safle storio ar gyfer Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria, contractwr trwsio mewnol WWH.

Dywedodd Gareth Thomas, Rheolwr Datblygu ar gyfer WWH yng Nghastellnewydd Emlyn: “Rydym yn dymuno symud ein swyddfeydd a darparu 35-40 o gartrefi di-garbon ac o ansawdd uchel ar gyfer pobl hŷn yn benodol.

“Mae’r lleoliad yn wych, mae mor agos i ganol y dref a’r afon, ac rydym yn awyddus i glywed safbwyntiau pobl er mwyn cyfrannu at ein cynlluniau.”
Gareth Thomas, Rheolwr Datblygu WWH

“Mae’n ddyddiau cynnar i’n cynigion o hyd. Nid oes gennym unrhyw gynlluniau manwl i’w dangos, ond trwy gynnal digwyddiad agored, rydym yn dymuno cynnig y cyfle i bobl leol alw heibio i gael sgwrs. Hoffem glywed eu syniadau ar gyfer y safle a hoffem gael eu hadborth.”

Mae Tai Wales & West yn berchen ar dros 1,500 o gartrefi yng Ngorllewin Cymru ac mae wedi buddsoddi dros £12 miliwn dros y dair blynedd ddiwethaf yn gwella’r cartrefi hyn er mwyn sicrhau eu bod yn gynhesach ac yn fforddiadwy. Mae gan y sefydliad gynlluniau uchelgeisiol i dyfu yn y rhanbarth, ac mae’n bwriadu adeiladu cartrefi newydd yn Aberystwyth, Aberaeron, Llanbedr Pont Steffan, Abergwaun a Threfdraeth.

Dywedodd Dirprwy Brif Weithredwr Grŵp WWH, Shayne Hembrow: “Wrth i ni ehangu, gan adeiladu mwy o gartrefi a darparu gwasanaethau newydd yn y rhanbarth, rydym yn dymuno symud i leoliad lle y gallwn barhau i dyfu a gwneud gwahaniaeth. Mae safle yr ysbyty yn cynnig y potensial i ni gael swyddfeydd gwych mewn man amlwg, yn ogystal â darparu cartrefi fforddiadwy newydd “eco-gyfeillgar” wedi’u dylunio’n dda ac sy’n ddeniadol.”

“Bydd y sesiwn galw heibio yn cynnig y cyfle i bobl Aberteifi gyfarfod staff a rheolwyr uwch o Dai Wales & West, gan rannu eu hystyriaethau a’u safbwyntiau am y ffordd y dylid defnyddio a datblygu’r safle yn eu barn nhw.”
Shayne Hembrow Dirprwy Brif Weithredwr Grŵp WWH

Ychwanegodd Prif Weithredwr Grŵp WWH, Anne Hinchey: “Rydym yn gwybod bod gan nifer fawr o bobl gysylltiadau gyda’r ysbyty ac atgofion cynnes amdano, ac rydw i’n awyddus i’w cyfarfod a chlywed eu safbwyntiau.”

 

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk 07484 911100 Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.