Newyddion

21/02/2020

Tai Wales & West yn cyrraedd brig y rhestr sefydliadau dielw gorau yng Nghymru am y tro cyntaf fel cwmni Grŵp

Mae Cwmnïau Gorau Sunday Times wedi cyhoeddi mai Tai Wales & West yw’r sefydliad dielw gorau yng Nghymru am y tro cyntaf fel cwmni Grŵp.

Roedd adborth gan staff yn Nhai Wales & West, Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria, a Mentrau Castell wedi helpu’r Grŵp i gyrraedd y pum uchaf yn rhestr y 100 Sefydliad Dielw Gorau i Weithio Iddynt yn 2020.

Roedd rhiant gwmni y grŵp, Tai Wales & West, wedi bod ar frig y rhestr yng Nghymru am saith blynedd o’r bron tan 2018.

Mae’r tri chwmni eisoes wedi sicrhau achrediad uchaf 3* Cwmnïau Gorau, sy’n cydnabod eu statws fel cyflogwyr eithriadol.

Dywedodd Prif Weithredwr Grŵp Tai Wales & West, Anne Hinchey:  “Rydym wrth ein bodd o weld ein cyflawniadau blaenorol yn rhestr Cwmnïau Gorau yn cael eu hadlewyrchu ar draws y Grŵp nawr.

“Mae gan bob cyflogai yn Nhai Wales & West, Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria a Mentrau Castell, rôl pwysig i’w gyflawni wrth ein helpu i wneud gwahaniaeth, waeth pa mor fach neu fawr.

“Rydym yn un tîm mawr, ac ni fyddem wedi gallu cyflawni hyn heb waith caled ac ymroddiad pawb.”

Mae rhestr flynyddol y Cwmnïau Gorau i Weithio Iddynt Sunday Times yn dathlu ac yn arddangos y gorau ym maes ymgysylltu yn y gweithle.

Seilir y canlyniadau ar adborth gan staff ynghylch wyth ffactor sy’n ymwneud ag ymgysylltu yn y gweithle, gan gynnwys meysydd megis lles, twf personol, arweinyddiaeth a rheolaeth.

Roedd 92% o staff Grŵp Tai Wales & West yn cytuno bod y sefydliad yn annog gweithgareddau elusennol, a dywedodd 81% o staff eu bod yn hapus gyda’r tâl a’r buddion y maent yn eu cael.

“Mae gan bob cyflogai yn Nhai Wales & West, Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria a Mentrau Castell, rôl pwysig i’w gyflawni wrth ein helpu i wneud gwahaniaeth, waeth pa mor fach neu fawr.”

Anne Hinchey, Prif Weithredwr Grŵp Tai Wales & West

Mae 649 o gyflogeion yn gweithio ar gyfer Grŵp Tai Wales & West mewn canolfannau yng Nghaerdydd, lle y mae prif swyddfa Tai Wales & West a Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria, ynghyd ag Ewlo yng Ngogledd Cymru a Chastellnewydd Emlyn yng Ngorllewin Cymru.

Tai Wales & West oedd y sefydliad cyntaf yng Nghymru i sicrhau Safon Platinwm Buddsoddwyr mewn Pobl hefyd – y nod rhagoriaeth uchaf yn y wlad ar gyfer busnes a rheoli pobl – achrediad y mae’n meddu arno o hyd.

I gael gwybod mwy am sut y daeth Grŵp Tai Wales & West yn un o’r pum Sefydliad Dielw Gorau i Weithio Iddynt yn y DU yn 2020, trowch at wefan Cwmnïau Gorau.

Andrew Price

andrew.price@wwha.co.uk07881 379 098 Andrew yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer Gogledd Cymru