Newyddion

22/04/2026

£64,000 wedi’i godi gan staff Grŵp Tai Wales & West ar gyfer pedair elusen

Derbyniodd pedair elusen yng Nghymru gyfran o £64,000 ar ôl i weithwyr Grŵp Tai Wales & West gyrraedd eu cyfanswm codi arian uchaf erioed.

Cafodd Cymdeithas Clefyd Motor Neurone (MND), Cymru Arthritis UK, Cerebral Palsy Cymru a Parkinson’s UK Cymru £16,000 yr un i gefnogi’r gwaith hanfodol y maent yn ei wneud mewn cymunedau ledled Cymru.

Bob dwy flynedd, mae staff Grŵp Tai Wales & West yn enwebu elusennau newydd i elwa o godi arian gan staff ac mae’r swm a godwyd yn ystod y cylch diweddaraf, sy’n cwmpasu 2024-25, yw’r mwyaf erioed.

Cyrhaeddwyd y cyfanswm drwy gyfuniad o weithgareddau, gan gynnwys loteri i staff a chyfres o heriau ‘60 am 60’ i nodi pen-blwydd y cwmni yn 60 oed yn 2025.⁠

Roedd rhai o’r heriau yn cynnwys:

• aelodau tîm datblygu Tai Wales & West yn cerdded 26 milltir ar hyd arfordir Sir Benfro

• 20 aelod o staff Cyllid yn mentro i ddringo mynydd uchaf de Cymru, Pen y Fan, 60 o weithiau mewn diwrnod … a dyblu eu targed

• grŵp o staff datblygu yn concro’r Her Tri Chopa Cymru mewn 24 awr

• tîm o redwyr o bob rhan o Grŵp Tai Wales & West yn cwblhau Her Fusnes Hanner Marathon Caerdydd

• staff cymorth a gofal ychwanegol yn cerdded ac yn rhedeg 600,000 o gamau mewn 60 diwrnod

Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr Grŵp Tai Wales & West: “Rydym bob amser yn hynod falch o’r swm y mae ein staff yn ei godi drwy eu gwaith caled a’u haelioni, ac mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn arbennig iawn.

⁠”Bu hwb mawr o ganlyniad i’r pen-blwydd nodedig yn 60 oed a’r gyfres o heriau a osodwyd gan dimau ac unigolion.⁠

“Diolch o galon i bawb. Bydd pob ceiniog a godwyd yn mynd tuag at gefnogi pedair elusen ragorol a’r gwaith y maent yn ei wneud i bobl yn ein cymunedau.”

Anne Hinchey, Prif Weithredwr Grŵp Tai Wales & West

Dywedodd Carwyn Williams, Pennaeth Codi Arian, Nawdd Corfforaethol a Marchnata a Chyfathrebu Cerebral Palsy Cymru, ei bod yn gyfnod heriol ar gyfer codi arian a bod 80 y cant o incwm yr elusen yn dod o ffynonellau y maent yn eu cynhyrchu eu hunain.

Dywedodd: “Rwy’n wirioneddol yn fud. Doedd gen i ddim syniad o gwbl y byddem yn derbyn cymaint â hyn. Diolch o galon ar ran pawb yn Cerebral Palsy Cymru a’r teuluoedd yr ydym yn eu cefnogi. ⁠Mae’r tîm yma yng Ngrŵp Tai Wales & West wedi bod yn anhygoel dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac mae’r swm a godwyd yn ganmoliaeth i bob aelod o’r staff.

“Rydym yn darparu therapïau arbenigol i fabanod a phlant â pharlys yr ymennydd yn ystod dwy flynedd gyntaf eu bywydau, gan mai dyma gyfnod hollbwysig ar gyfer sefydlu cysylltiadau niwrolegol.

“Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth cefnogi teuluoedd sy’n darparu cefnogaeth emosiynol ac ymarferol i rieni, gan eu helpu i deimlo’n hyderus ac yn rymus i gefnogi eu plentyn y ffordd orau bosibl.

“Bydd y cyllid hwn yn ein helpu i barhau i ddarparu’r gwasanaethau hanfodol hyn, yn rhad ac am ddim, i’r rhai sydd eu hangen fwyaf.”

Dywedodd Karlie Evans, Rheolwr Codi Arian Cymunedol Arthritis UK: “Rydym yn hynod ddiolchgar am y gwaith codi arian anhygoel y mae pawb wedi’i wneud dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

“Mae’n swm enfawr i’w dderbyn ac rydym mor, mor ddiolchgar amdano. Bydd yr arian yn mynd tuag at ymchwil a’r holl waith gwych y gallwn ei wneud i bobl sy’n byw gydag arthritis yng Nghymru.”

Dywedodd Keri McKie, Codwr Arian Cymunedol Parkinson’s UK Cymru: “Rydym mor ddiolchgar i Grŵp Tai Wales & West am godi arian ar gyfer Parkinson’s UK Cymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

“Rydym wedi ein syfrdanu’n llwyr gan y gyfran o £16,000 allan o’r cyfanswm o £64,000.

“Gyda mwy na 40 o symptomau posib, gall clefyd Parkinson’s ddinistrio bywydau. Rydym wedi gwneud datblygiadau mawr dros y 50 mlynedd ddiwethaf, ond nid oes iachâd eto.

“O chwilio am iachâd ac ymgyrchu dros iechyd a gofal gwell, i ariannu ymchwil i driniaethau newydd arloesol a rhedeg gwasanaethau cymorth sy’n newid bywydau, ni fyddai dim o hyn yn bosibl heb gefnogwyr fel Grŵp Tai Wales & West.”

Dywedodd Rebecca Villard, Codwr Arian Gwirfoddolwyr yn y Gymdeithas Clefyd Motor Neurone (MND): “Mae hwn yn swm enfawr i ni, ac mae popeth a godwn yn mynd tuag at helpu rhywun yn y gymuned, gan gynorthwyo pobl i fyw gartref cyhyd ag y bo modd.”