Newyddion

08/12/2022

Agoriad swyddogol ar gyfer cynllun gofal ychwanegol newydd yng Ngheredigion

Y Gwir Anrhydeddus Elin Jones AC yn cyfarfod preswylydd yn ystod agoriad swyddogol Maes y Môr

Y Gwir Anrhydeddus Elin Jones AC yn cyfarfod preswylydd yn ystod agoriad swyddogol Maes y Môr

Mwynhaodd preswylwyr yng nghynllun gofal ychwanegol newydd Aberystwyth ddiwrnod i’w gofio yn ystod ei agoriad swyddogol.

Yn ystod y digwyddiad ym Maes y Môr, cafwyd perfformiad gan gôr Ysgol Llwyn yr Eos a dadorchuddiwyd plac gan AS y dref, y Gwir Anrhydeddus Elin Jones.

Mae’r ysgol eisoes wedi cyflawni rhan bwysig yn hanes y cynllun gan mai nhw ddewisodd enw Maes y Môr, sy’n golygu cae ger y môr.

Perfformiodd Ysgol Llwyn yr Eos yn Aberystwyth yn ystod agoriad swyddogol Maes y Môr

Perfformiodd Ysgol Llwyn yr Eos yn Aberystwyth yn ystod agoriad swyddogol Maes y Môr

Cynlluniodd un o gyn ddisgyblion yr ysgol y logo ar gyfer y bwyty hefyd, sef Yr Harbwr, sy’n cynnwys y goleudy a welir ar y lan yn Aberystwyth.

Gan siarad yn ystod y digwyddiad, dywedodd y Gwir Anrhydeddus Elin Jones AS:  “Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi bod yn ymwneud â’r gwaith o ddatblygu cysyniad yr adeilad, ac y maent bellach yn cynllunio bywydau a gofal y bobl sydd wedi ymgartrefu yma.  Mae’n ymdrech arbennig iawn gan bawb.

“Mae ansawdd y cyfleuster wedi gwneud argraff dda arnaf.  Mae’n cynnig golygfa mor odidog o Aberystwyth a Bae Ceredigion.  Mae’r gymuned hon wedi dewis sicrhau bod y safle hwn yn parhau i fod ar gael i’r rhai y mae angen iddynt fyw bywyd da a byw yn ein cymunedau am gyfnod hir.

“Mae Maes y Môr yn lle gwych i fod a diolch i Dai Wales & West am ei ddatblygu yma yn y gymuned hon yn Aberystwyth.”

Mae’r cynllun eisoes wedi cael ei gydnabod am y gwahaniaeth y mae wedi ei wneud i breswylwyr ar ôl i waith y staff i gynorthwyo lles preswylwyr ennill y wobr am y prosiect Cefnogi Byw’n Egniol gorau yng Ngwobrau Tai Cymru eleni.

Y Gwir Anrhydeddus Elin Jones AS yn dadorchuddio plac ym Maes y Môr gydag Alex Ashton, Cadeirydd Bwrdd Grŵp Tai Wales & West

Y Gwir Anrhydeddus Elin Jones AS yn dadorchuddio plac ym Maes y Môr gydag Alex Ashton, Cadeirydd Bwrdd Grŵp Tai Wales & West

“Mae ansawdd y cyfleuster wedi gwneud argraff dda arnaf. Mae’n cynnig golygfa mor odidog o Aberystwyth a Bae Ceredigion.”

Gwir Anrhydeddus Elin Jones AS

Dywedodd Alex Ashton, Cadeirydd Bwrdd Tai Wales & West: “Mae’r 56 o fflatiau yma yn cynnig cartref i 62 o bobl ac rydw i mor falch bod cymaint o’n preswylwyr wedi ymuno â ni i ddathlu.

“Mae pob cynllun gofal ychwanegol mor bwysig i’w breswylwyr, gan ei fod yn cynnig eu drws ffrynt eu hunain iddynt a lle iddynt fyw bywyd annibynnol, ond hefyd, mae’n cynnig y cysur a’r diogelwch o gael gofal a chymorth ar y safle pan fydd ei angen.

“Mae wedi bod yn bleser siarad gyda chymaint ohonynt i glywed am yr effaith gadarnhaol y mae symud yma wedi ei chael ar eu bywyd.”

Lleolir Maes y Môr ym Mhen yr Angor, Trefechan, ac mae’n mwynhau golygfeydd godidog dros y dref a’r harbwr, a hwn yw cynllun gofal ychwanegol cyntaf Tai Wales & West yng Ngheredigion, a’r ail i gael ei agor yn y sir.

Mae’r cynllun yn darparu amrediad o gyfleusterau a gofal a chymorth 24 awr y dydd ar y safle ar gyfer 62 o oedolion, rhwng 22 a 95 oed.

Fe’i ddatblygwyd mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ceredigion i gynnig dewis newydd yn Aberystwyth er mwyn byw bywyd annibynnol.

I gael gwybod mwy am Faes y Môr, trowch at wwha.co.uk/maesymor

Andrew Price

andrew.price@wwha.co.uk07881 379 098 Andrew yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer Gogledd Cymru