Cadw ein Gilydd yn Ddiogel
Yn Nhai Wales & West, rydym yn falch o wasanaethu cymuned lle y mae’r rhan fwyaf o breswylwyr yn barchus, yn garedig ac yn gefnogol.
Yn anffodus, fel nifer o sefydliadau tebyg, rydym yn wynebu sefyllfaoedd o bryd i’w gilydd lle y bydd staff yn dioddef ymddygiad annerbyniol ac mae’n ymddangos bod hyn ar gynnydd.
Gall hyn gynnwys:
• cam-drin ar lafar neu ymosodedd
• bygythiadau neu drais corfforol
• bygylu neu sylwadau dirmygus
• honiadau di-sail
• galwadau afresymol neu gyswllt parhaus
“Gyda’n gilydd, gallwn barhau i drin ein gilydd gyda charedigrwydd a pharch.”
Er bod y digwyddiadau hyn yn brin, gallant gael effaith ddifrifol ar les ein tîm. Credwn bod pawb yn haeddu teimlo’n ddiogel yn y gwaith, yn yr un modd ag y mae pob preswylydd yn haeddu teimlo’n ddiogel yn eu cartref. Dyna pam ein bod yn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cyfathrebu parchus. Mae ein staff yma i helpu, ac rydym yn dymuno sicrhau eu bod yn gallu gwneud hynny mewn amgylchedd diogel a chefnogol.
Mewn sefyllfaoedd pan fo staff yn teimlo’n anniogel, cânt eu grymuso i gymryd camau priodol, a allai gynnwys terfynu galwad neu ymweliad, cyfyngu ar ddulliau cyswllt, cofnodi gwybodaeth am y digwyddiad ar ein systemau, neu yn yr achosion mwyaf difrifol, cysylltu â’r heddlu.
