Cefnogi Apêl Ddyngarol Wcráin

Yr hyn y gallwch chi ei wneud fel preswylydd Tai Wales & West i helpu, gan gynnwys gwybodaeth ynghylch lletya ffoaduriaid o Wcráin

Y Sefyllfa

Mae’r Pwyllgor Argyfwng Trychinebau (DEC) wedi amcangyfrif y bydd 18 miliwn o bobl yn cael eu heffeithio gan y gwrthdaro enbyd yn Wcráin.

Disgwylir y bydd 4 miliwn o bobl, mwy na phoblogaeth Cymru gyfan, yn cael eu dadleoli o’u cartrefi.

Mae cartrefi wedi cael eu dinistrio, mae cyfleusterau iechyd, cyflenwadau dŵr ac ysgolion wedi cael eu difrodi neu eu dinistrio hefyd.  Mae o leiaf 3 miliwn o bobl eisoes wedi gorfod ffoi o’u cartrefi ac maent yn wynebu dyfodol ansicr.

Rydym yn ymwybodol o’r ffaith bod rhai preswylwyr yn dymuno gwneud yr hyn y gallant i helpu.

Beth allaf i ei wneud?

Rhoi i Apêl Ddyngarol Wcráin

Helpu elusennau DEC (gan gynnwys Action Aid, Y Groes Goch Brydeinig, ac Action Against Hunger) i ddarparu bwyd, dŵr, lloches a gofal iechyd i ffoaduriaid a theuluoedd sy’n cael eu dadleoli.

Apêl Cartrefi ar gyfer Wcráin

Mae Llywodraeth y DU wedi lansio apêl Cartrefi ar gyfer Wcráin.  Mae’r cynllun hwn yn cynorthwyo pobl yn y DU y mae ganddynt ystafelloedd sbâr i gynnig lle diogel i ffoadur(iaid) i fyw am o leiaf 6 mis.

Rydw i’n byw yn un o gartrefi WWH ac mae gennyf ystafell sbâr – a ydw i’n gallu cymryd rhan?

Ydych, ar ôl sicrhau ein caniatâd ni. Rydym yn dymuno cynorthwyo ein preswylwyr y mae ganddynt ddigon o le i gynnig llety i ffoadur(iaid).

Mae angen i ni gael gwybod a ydych chi’n cymryd rhan, er mwyn i ni allu cynnig y cymorth cywir i chi a sicrhau bod cofnodion tai cywir yn cael eu cadw.

Os ydych chi’n ystyried cymryd rhan ac os hoffech siarad gyda ni, ffoniwch y Tîm Cymorth Tai ar 0800 052 2526.

  • Os byddwch yn cael eich derbyn fel lletywr, bydd Llywodraeth y DU yn talu taliadau cymorth misol i chi.  Gallai cael pobl yn byw gyda chi, hyd yn oed dros y tymor byr, effeithio ar unrhyw help ariannol y byddwch yn ei gael tuag at eich rhent neu’ch taliadau gwasanaeth.  Gallai hwn fod yn daliad gan eich awdurdod lleol (Budd-dal Tai) neu fel rhan o daliad Credyd Cynhwysol.  Gallwch weld rhagor o wybodaeth ynghylch lletya ac incwm ar wefan y Llywodraeth.
  • ni allwch godi tâl na gofyn am unrhyw daliad gan y rhai y byddwch yn cynnig llety iddynt
  • Ni ddisgwylir i chi gyflenwi prydau i unrhyw un y byddwch yn cynnig llety iddynt
  • Mae Llywodraeth Cymru yn paratoi pecyn o gymorth ar gyfer ffoaduriaid, gan gynnwys cludiant am ddim ar holl wasanaethau Trafnidiaeth Cymru am chwe mis.  Trowch at llyw.cymru am ddiweddariadau.
  • Ystyriwch faint eich cartref.  Ceir canllawiau llym ynghylch faint o bobl sy’n gallu byw yn ein cartrefi er mwyn sicrhau nad ydynt yn cael eu hystyried fel rhai ‘gorlawn’, fel y nodir mewn cyfraith tai.  Mae’r wybodaeth hon yn eich contract deliadaeth.
  • Holwch i weld a allai hyn effeithio ar unrhyw bolisïau yswiriant ar eich cartref neu’ch cynnwys.
  • Efallai y bydd trefniadau eraill ynghylch sut y gosodwyd eich cartref i chi, y gallent fod yn ymwneud ag oedran, neu os ydych chi’n cael gofal neu wasanaethau cymorth, y bydd angen i chi eu hystyried cyn lletya.  Byddech wedi cael gwybod am hyn pan symudoch i mewn i’ch cartref, ond os na, cysylltwch i holi.

I wneud cais am ein caniatâd i gymryd rhan yn apêl Cartrefi ar gyfer Wcráin, llenwch y ffurflen isod er mwyn i ni allu cysylltu â chi i gadarnhau a fyddwch chi’n gallu bod yn lletywr neu beidio.

Byddwn yn cysylltu â chi cyn pen pythefnos o gael eich ffurflen, ac os rhoddir caniatâd, byddwch yn gallu cofrestru gydag apêl Cartrefi ar gyfer Wcráin Llywodraeth y DU ar ôl hynny.

Ffurflen apêl Wcráin

A fyddech gystal â llenwi’r ffurflen isod er mwyn rhoi gwybod i ni eich bod yn dymuno cael eich ystyried fel lletywr ar gyfer ffoadur(iaid).

Rhaid i chi sicrhau ein caniatâd ni er mwyn i ni allu sicrhau bod eich cofnodion tai yn gyflawn ac yn cynrychioli’r sefyllfa ddiweddaraf.

Os na allwch chi lofnodi’r ffurflen hon ar-lein, ffoniwch 0800 052 2526 er mwyn siarad â’r Tîm Cymorth Tai.

A oes gennych chi ystafell wely sbâr i'w chynnig?

A ydych chi wedi cofrestru gyda chynllun Cartrefi ar gyfer Wcráin y Llywodraeth?

Ar ôl i chi sicrhau ein caniatâd ni, cofrestrwch fel lletywr posibl gydag Apêl Cartrefi ar gyfer Wcráin