Rydym yn cynhyrchu’r fideos hyn er mwyn helpu preswylwyr presennol a newydd i ddeall y cynhyrchion a’r dechnoleg yn eu cartref. Gallai ymddangosiad modelau amrywio i’r rhai a ddangosir yma, ond fel arfer, byddwch yn gweld bod eu gweithrediad yr un fath. Am gyfarwyddiadau mwy manwl, trowch at lawlyfr defnyddiwr y cynhyrchion neu defnyddiwch yr adnoddau y nodir cyswllt iddynt isod.

Sut i ddefnyddio: Synhwyrydd mwg a gwres

Mae dau larwm mwg yn eich cartref, un yn y cyntedd ac un ar y landin.

Diben larymau mwg yw sicrhau eich diogelwch os bydd tân unrhyw le yn eich cartref.

Maent wedi eu cysylltu â’r prif gyflenwad trydan ac maent yn cynnwys batri, felly byddant yn gweithio os bydd y cyflenwad trydan yn methu.

Argymhellwn eich bod yn cynnal prawf o’ch larymau mwg bob wythnos trwy bwyso’r botwm rownd mawr fel y dangosir.

Dylech glywed bîp uchel sy’n cadarnhau bod y larwm mwg yn gweithio ac nad oes angen i chi gymryd unrhyw gamau pellach.

Os byddwch yn pwyso’r botwm ac os na fydd yn gwneud unrhyw sŵn, cysylltwch â ni ar 0800 052 2526.

Ceir synhwyrydd gwres yn eich cegin sy’n edrych yn debyg i’r larwm mwg, ond nid oes angen profi hwn.

Bydd yn canu os bydd yn synhwyro tân yn y gegin, ond ni fydd yn canu pan fydd yn synhwyro mwg, fel pan fydd tost yn llosgi, er enghraifft.

Mae larwm CO2 ar nenfwd y gegin ger eich boeler.

Mae carbon monocsid yn nwy gwenwynig heb arogl, blas na lliw.

Ac os bydd yn bresennol, bydd larwm yn canu fel y dangosir.

Ni fydd angen i chi brofi eich larwm CO2 yn rheolaidd.

Os byddwch yn clywed eich larwm CO2 yn canu, dylech agor pob ffenestr a drws, a chysylltu â ni ar unwaith ar 0800 052 2526.

Paneli Solar

Stop-tap

Pwmp Aer

Boeler