Rydym yn cynhyrchu’r fideos hyn er mwyn helpu preswylwyr presennol a newydd i ddeall y cynhyrchion a’r dechnoleg yn eu cartref. Gallai ymddangosiad modelau amrywio i’r rhai a ddangosir yma, ond fel arfer, byddwch yn gweld bod eu gweithrediad yr un fath. Am gyfarwyddiadau mwy manwl, trowch at lawlyfr defnyddiwr y cynhyrchion neu defnyddiwch yr adnoddau y nodir cyswllt iddynt isod.

Sut i ddefnyddio: Paneli solar

Mae paneli ffotofoltäig wedi cael eu gosod ar eich cartref, a’r enw mwy cyffredin amdanynt yw paneli solar.

Maent yn gweithio trwy gynhyrchu ynni o olau dydd, nid heulwen yn unig, a’i drosi yn drydan i’w ddefnyddio yn eich cartref.

Bydd ynni a gynhyrchir gan y paneli ar eich to yn mynd trwy’r gwrthdröydd er mwyn cael ei droi yn ynni.

Mae hyn eisoes wedi cael ei drefnu, ac ni fydd angen i chi wneud unrhyw beth gydag ef.

Mae’r mesurydd PV yn dangos faint o ynni y bydd eich paneli solar yn ei gynhyrchu yn ystod eu hoes.

Dangosir hyn fel cilowat yr awr neu KWH.

Dylai’r ffigwr ar y dangosydd godi bob dydd a bydd yn codi mwy ar ddiwrnodau heulog
mwy golau yr haf nag ar ddiwrnodau tywyll y gaeaf.

Os byddwch yn sylwi nad yw’r ffigwr yn codi, ffoniwch ni ar 0800 052 2526
oherwydd efallai bod nam ar y system.

Gellir defnyddio’r ynni a gynhyrchir yn syth i redeg eich system wresogi a’ch dyfeisiau yn y cartref.

I fanteisio’n llawn ar yr ynni hwn sydd am ddim, efallai y byddwch yn dymuno defnyddio dyfeisiau sy’n defnyddio llawer o ynni, fel eich peiriant golchi dillad, eich peiriant sychu dillad neu’ch peiriant golchi llestri yn ystod y dydd.

Stop-tap

Pwmp Aer

Boeler

Cysylltiadau BT