Rydym yn cynhyrchu’r fideos hyn er mwyn helpu preswylwyr presennol a newydd i ddeall y cynhyrchion a’r dechnoleg yn eu cartref. Gallai ymddangosiad modelau amrywio i’r rhai a ddangosir yma, ond fel arfer, byddwch yn gweld bod eu gweithrediad yr un fath. Am gyfarwyddiadau mwy manwl, trowch at lawlyfr defnyddiwr y cynhyrchion neu defnyddiwch yr adnoddau y nodir cyswllt iddynt isod.

Sut i ddefnyddio: Ffaniau EnviroVent

Er mwyn helpu i atal llwydni a lleithder rhag cronni yn eich cartref, gosodwyd ffan EnviroVent yn eich cegin a’ch ystafell ymolchi neu’ch ystafell wlyb.

Bydd hon yn cael gwared ar leithder a gaiff ei greu wrth goginio neu gael cawod.

Mae wastad ymlaen a bydd yn rhedeg yn dawel gan amlaf.

Ond o bryd i’w gilydd byddwch yn clywed mwy o sŵn gan y ffan, pan fydd llawer o leithder neu ager yn bresennol.

Mae hyn yn normal a bydd y ffan yn dychwelyd i’w chyflwr arferol ar ôl cwblhau’r broses hon.

Mae pob ffan yn cynnwys cortyn tynnu y gallwch ei ddefnyddio yn ôl yr angen er mwyn i’r ffan weithio yn galetach i gael gwared ag unrhyw arogleuon annymunol yn yr ystafell.

Er enghraifft, wrth goginio.

Blwch Mesurydd

Synhwyrydd mwg

Paneli Solar

Stop-tap