Glan y Môr
Bae Colwyn, Conwy
54
o gartrefi

Ynglŷn â’r datblygiad hwn

Mae Glan y Môr yn ddatblygiad o 54 o fflatiau newydd ar gyfer rhent fforddiadwy yn nhref glan môr hanesyddol Bae Colwyn, Conwy.  

Wedi’i gynllunio ar gyfer bobl 55 oed a throsodd i fyw’n annibynnol, mae’r datblygiad yn cynnwys 46 o fflatiau un ystafell wely ac 8 o fflatiau dwy ystafell wely.

Mae Glan y Môr wedi’i adeiladu i safonau effeithlonrwydd ynni uchel, gyda phaneli solar a phympiau gwres ffynhonnell aer.  

Mae’r cartrefi yn elwa o:  

  • cawodydd mynediad gwastad/ystafelloedd gwlyb  
  • lifftiau   
  • parcio ar y safle   
  • cyfleusterau cymunol a rennir, gan gynnwys mannau eistedd a gardd cwrt  
  • storfa sgwteri trydan   

Castlemead Group Ltd sy’n arwain y gwaith o adeiladu’r datblygiad a disgwylir iddo gael ei gwblhau ym mis Mawrth 2027.  

Lleoliad
Yr ardal 

Mae’r cynllun wedi’i leoli yng nghanol tref Bae Colwyn, rhwng y Stryd Fawr a Chanolfan Siopa Bay View.  Mae cyfleusterau lleol, gan gynnwys siopau, archfarchnadoedd, caffis, eglwysi a Theatr Colwyn, ychydig funudau ar droed o’r datblygiad.  

Mae’r A55 gerllaw, ac mae gorsaf reilffordd Bae Colwyn tua phum munud ar droed, gan ddarparu cysylltiadau â gweddill Gogledd Cymru a thu hwnt.  

Mae cyfleusterau hamdden gerllaw yn cynnwys Gwarchodfa Natur Nant y Pandy, Parc Eirias, y llyn cychod, mannau chwarae, clwb cychod model, clwb bowlio, canolfan denis, Stadiwm Eirias, traeth a phromenâd Bae Colwyn, llwybrau beicio, Porth Eirias a Chanolfan Chwaraeon Dŵr Bae Colwyn.  

Mae safle bws hefyd gyferbyn â’r fflatiau.  

Manteision o fyw yn Glan y Môr  

  • gwasanaeth atgyweirio brys 24 awr
  • gerddi cymunol a mannau awyr agored   
  • byw heb y baich o waith cynnal a chadw  
  • cartrefi sy’n croesawu anifeiliaid anwes  
Sut i wneud cais  

I wneud cais, rhaid i chi fod yn 55 oed neu’n hŷn ac yn gymwys ar gyfer tai cymdeithasol  

I gael gwybod a ydych yn gymwys, cofrestrwch gyda Datrysiadau Tai Conwy drwy ffonio 0300 124 0050. Bydd eu tîm yn asesu eich anghenion tai ac yn eich cynghori ynghylch eich cymhwystra. 