Newyddion

13/06/2025

Ysgrifennydd Cabinet Tai yn cwrdd â preswylwyr Caerdydd

Roedd ein prif weithredwr Anne Hinchey a Chadeirydd y Bwrdd Alex Ashton wrth eu bodd yn croesawu Ysgrifennydd Cabinet Cymru dros Dai Jayne Bryant AS i’n datblygiad yn Ffordd yr Haearn yn Grangetown, Caerdydd. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo £24m ar gyfer benthyciadau i ryddhau tir i ddatblygu tai ac adeiladu rhagor na 600 o gartrefi newydd arno ledled Cymru.

Jayne Bryant AS – Ysgrifennydd Cabinet Tai a Llywodraeth Leol yn cyfarfod â Thai Wales & West i weld sut maen nhw wedi defnyddio benthyciadau cyllid ar gyfer eu datblygiad Ffordd yr Haearn.
GWASANAETH NEWYDDION CYMRU

Dywedodd Stuart Epps, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid, Asedau a Datblygu yn Dai Wales & West: “Ffordd yr Haearn oedd y cynllun cyntaf o dai fforddiadwy i’w rhentu lle gwnaethom gais am gyllid benthyciad o dan y cynllun Tir ar gyfer Tai.

“Yn Ffordd yr Haearn rydym wedi gallu darparu 100 o gartrefi i bron i 350 o drigolion, gan roi sylfaen gadarn i deuluoedd adeiladu bywydau iach a hapus.”
Stuart Epps, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid, Asedau a Datblygu

“Ar y pryd, yn 2018, caniataodd y benthyciad inni brynu’r safle a dylunio ein datblygiad i ddiwallu anghenion cymuned Grangetown. Un o’r pethau allweddol yr oedd eu hangen ar y gymuned oedd cartrefi teulu diogel a sicr gyda gerddi, am oes. Felly, rydym wedi gallu darparu 52 o dai gyda lle awyr agored yn ogystal â 48 o fflatiau.

“Rydym wedi defnyddio’r cyllid hwn ar gyfer nifer o ddatblygiadau tai ledled Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae cael y benthyciadau hyn gan Lywodraeth Cymru yn fuddiol gan ei fod yn caniatáu i ddarparwyr tai brynu tir, gan ryddhau arian arall y gallwn ei fuddsoddi mewn adeiladu a chynllunio mwy o gartrefi.”

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet: “Rwy’n hynod falch bod ein Cynllun Tir ar gyfer Tai yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ledled Cymru.

“Mae cwrdd â’r trigolion yn Ffordd yr Haearn a gweld â’m llygaid fy hunan sut mae’r cyllid hwn wedi creu cymunedau go iawn, nid dim ond tai, lle gall pobl fwrw gwreiddiau ac adeiladu bywydau ystyrlon gyda’i gilydd, yn gwneud ein holl waith caled yn werth chweil.”
Ysgrifennydd Cabinet Cymru dros Dai Jayne Bryant AS

Dysgwch fwy am effaith y buddsoddiad gan Llywodraeth Cymru.

 

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk 07484 911100 Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.