Newyddion

14/10/2020

Ymrwymiad partneriaeth tai Caerffili i gydweithio

Mae partneriaeth ym Mwrdeistref Sirol Caerffili wedi dangos ei hymrwymiad i gydweithio i gwrdd ag anghenion tai lleol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Linc Cymru, Pobl Group, Cymdeithas Tai Unedig Cymru a Chymdeithas Tai Wales & West wedi llofnodi ‘Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth’ sy’n  nodi eu hymrwymiad cyffredin i gydweithio i ddod o hyd i atebion tai lleol; gyda chanolbwynt arbennig ar ddarparu tai fforddiadwy newydd.

Llofnododd pob parti’r cytundeb yn ystod digwyddiad o bell a gynhaliwyd ddydd Llun 5 Hydref. Roedd Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, yn dyst i’r seremoni llofnodi swyddogol.

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, “Mae’r misoedd diwethaf wedi ein hatgoffa am bwysigrwydd sylfaenol am dai fforddiadwy o ansawdd da ac rydyn ni’n parhau i ymrwymo i ddarparu 20,000 o dai fforddiadwy cyn diwedd tymor y Senedd.

Mae’n wych gweld y sector tai yn cydweithio i sicrhau y bydd cymunedau lleol yn gallu cael mynediad at dai fforddiadwy y mae mawr eu hangen ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili.”

Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn nodi’r nodau ac amcanion y bydd y bartneriaeth yn cyflawni trwy gydweithio; trwy rannu sgiliau, gwybodaeth ac adnoddau i ddarparu tai fforddiadwy a chymunedau cydnerth a chynaliadwy.

Ychwanegodd y Cynghorydd Philippa Marsden, Arweinydd y Cyngor, “Mae gennym ni hanes cryf o gydweithio ym Mwrdeistref Sirol Caerffili ac rydyn ni eisoes wedi darparu nifer o brosiectau llwyddiannus gyda’n partneriaid cymdeithas tai.

Trwy fabwysiadu’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rydyn ni’n mynd un cam ymhellach i ddangos ein hymrwymiad i gydweithio er budd ein trigolion a chymunedau lleol.”

Dywedodd Prif Weithredwr United Welsh, Lynda Sagona, ar ran partneriaid cymdeithasau tai, “Trwy’r cydweithrediad cadarnhaol hwn, rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu ar y cyd cymaint â phosibl gartrefi ynni effeithlon, mawr eu hangen ar gyfer pobl Caerffili ac wrth wneud hynny, yn creu llawer o swyddi cyffrous a chyfleoedd hyfforddi.”

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk 07484 911100 Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.