Newyddion

24/11/2020

Cartrefi y dyfodol ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Mae datblygiad tai a fydd yn cynnwys 14 o gartrefi eco, ac a ddyluniwyd i ddefnyddio golau dydd er mwyn darparu’r rhan fwyaf o’u hynni, ar fin cael eu cwblhau ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Dyluniwyd y tai a’r fflatiau sy’n cael eu datblygu gan Dai Wales & West yn Rhiw Cefn Gwlad, Bryn Bragl, Pen-y-bont ar Ogwr mewn ffordd a fydd yn siapio’r cartrefi di-garbon y gallent gael eu hadeiladu yn y dyfodol.

Maent yn edrych yn debyg iawn i unrhyw ddatblygiad tai newydd arall, ac eithrio’r ffaith bod y toeon wedi’u gwneud o baneli Ffotofoltäig (PV) sy’n cynhyrchu trydan, a cheir batri Tesla y tu mewn iddynt er mwyn storio ynni.  Yn hytrach na gwres canolog nwy a rheiddiaduron, mae pob cartref yn cynnwys system awyru a phwmp gwres o’r math diweddaraf, sy’n tynnu awyr iach i mewn, a chaiff hwn ei gynhesu a’i gylchredeg o gwmpas y tŷ.

Trwy adeiladu eiddo cynnes ac sy’n cynnwys cryn dipyn o inswleiddio, a chan ddefnyddio’r technolegau diweddaraf, bydd y cartrefi yn gallu cynhyrchu eu trydan eu hunain i redeg y system wresogi a’r dyfeisiau, gan arbed arian i’r preswylwyr a fydd yn byw ynddynt, trwy gyfrwng biliau ynni is.

Y tai a’r fflatiau hyn yw’r rhai cyntaf o’u math ar gyfer y farchnad rhent cymdeithasol yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.  Fe’u hariannwyd dan Raglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru er mwyn datblygu ffyrdd o fodloni targed di-garbon LlC ar gyfer cartrefi yn 2050.  Ar ôl eu cwblhau, disgwylir i’r cartrefi sicrhau’r sgôr uchaf o ran effeithlonrwydd ynni, sef A, o’u cymharu gyda’r cyfartaledd cenedlaethol yng Nghymru, sef D.

Mae WWH wedi gweithio gyda’i phartneriaid, Zenergy Design, er mwyn creu cartrefi sy’n seiliedig ar gysyniad y Cartref Solcer arloesol yn Stormy Down ger Pen-y-bont ar Ogwr, a ddyluniwyd ac a adeiladwyd gan Ysgol Bensaernïaeth Cymru Prifysgol Caerdydd.

Bydd partneriaid adeiladu hirdymor WWH, Grŵp Jehu, yn cwblhau’r gwaith ar y cartrefi yn ystod y tri mis nesaf.

Ar ôl iddynt symud i mewn, gofynnir i’r preswylwyr roi adborth am eu defnydd ynni a’u biliau, eu lefelau cysur a’u defnydd o’r technolegau.  Trwy gydol y flwyddyn gyntaf, caiff data arall ynghylch perfformiad ynni ei fonitro ac adroddir canfyddiadau yn ôl i Lywodraeth Cymru, er mwyn iddynt barhau i ehangu’r gwaith o ddarparu cartref di-garbon.

Dywedodd Rheolwr Adeiladu WWH, Grant Prosser:  “Yr her i’r diwydiant tai yw cyflawni’r targed di-garbon erbyn 2050.

“Yn y gorffennol, ni fu rhai o’r technolegau a ddefnyddiwyd wrth ddylunio cartrefi di-garbon yn ymarferol neu’n hawdd i’w defnyddio.  Gyda’r cartrefi hyn, rydym wedi gweithio gyda’n partneriaid i gynnwys systemau cynhyrchu ynni carbon isel a fydd yn effeithiol, ond hefyd, a fydd yn hawdd i’r preswylwyr eu defnyddio, ac i ni, fel landlordiaid, i’w cynnal a’u cadw.

“Mae nifer o’n preswylwyr ar incymau isel yn ei chael hi’n anodd fforddio biliau ynni sy’n codi ac maent yn byw mewn sefyllfa o dlodi tanwydd.  Gall y teuluoedd a’r unigolion a fydd yn symud i’r cartrefi hyn ddisgwyl gweld eu biliau yn gostwng yn sylweddol.”

“Er nad yw’r cartrefi hyn yn rhai di-garbon, maent yn agos iawn i fod.  Gyda’r datblygiad hwn, mae Tai Wales & West ar y blaen o ran y ffordd y gallai cartrefi newydd gael eu hadeiladu yn y dyfodol.  Bydd y preswylwyr a fydd yn symud i mewn yn gallu cyflawni rôl cyffrous wrth siapio cartrefi y dyfodol hefyd.”

Prif wahaniaethau

Toeon: Mae’r toeon wedi’u gwneud o baneli mawr o gelloedd ffotofoltäig (PV), sy’n troi golau dydd yn drydan er mwyn helpu i bweru’r cartref.

Waliau: Mae’r rhain wedi’u gwneud o Baneli Strwythuredig wedi’i Hinswleiddio (SIPS), a adeiladir mewn ffatrïoedd ac sy’n cynnwys haen drwchus o ddeunydd inswleiddio er mwyn sicrhau lefelau uwch o ran cadw gwres.

Ffenestri: Gwydr triphlyg ac maent yn cynnwys seliau aerglos er mwyn atal drafftiau.  Mae’r ffenestri sy’n wynebu’r de yn fwy o faint na rhai cyfartalog er mwyn darparu cymaint o olau a gwres ag y bo modd gan yr haul.

Gwresogi a dŵr poeth: Caiff y system wresogi ei rhedeg gan system awyru a phwmp gwres trydan o’r math diweddaraf, sy’n cylchredeg yr aer, gan gymryd aer o’r tu allan, ei gynhesu a’i hidlo cyn cylchredeg yr aer cynnes o gwmpas y cartref.  Gwresogir dŵr poeth gan drydan, a chaiff llawer o hwn ei gynhyrchu o’r paneli to a’i storio mewn tanc dŵr ar gyfer yr adeg pan fydd ei angen.

Batris: Bydd pob cartref yn cynnwys batri o faint rheiddiadur a gynhyrchwyd gan y cwmni cynhyrchu ceir trydan, Tesla.  Gosodir y batri mewn cwpwrdd ac mae’n storio trydan a gynhyrchir gan y celloedd PV ar y to, i’w ddefnyddio yn ôl yr angen, gyda’r hwyr fel arfer.  Pan fydd y batri wedi’i wefru’n llawn, caiff unrhyw drydan ychwanegol a gynhyrchir ei fwydo’n ôl i’r Grid Cenedlaethol.  Gall preswylwyr edrych i weld faint o drydan y maent wedi’i ddefnyddio a faint sydd ar ôl yn eu batri ar sgrin llechen a osodwyd yn y gegin.

“Ein cartref newydd a fydd yn gwneud gwahaniaeth i fywyd ein teulu cyfan”

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk 07484 911100 Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.