Newyddion

25/09/2020

Mae Vic wedi cwblhau her feicio i godi arian ar gyfer Mind Cymru 

Cododd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Eiddo TWW, Vic Cox, dros £650 ar gyfer ein helusen staff, Mind Cymru, ar ôl beicio 57 milltir mewn ychydig dros dair awr

Cymerodd Vic ran yn Great Weston Ride ddydd Sul Medi 20, gan feicio  57 o filltiroedd yn ddi-stop o Fryste i Weston Super Mare dros Fryniau Mendip.

Dywedodd Vic:  “Bu’n daith eithaf caled mewn tywydd gwyntog iawn, felly roeddwn yn falch iawn o’i gwblhau mewn 3 awr a 10 munud.

“Roedd hyd yn oed yn fwy o her gan fy mod yn fy 50au, mae gen i asthma cronig a chefais ben-glin newydd y llynedd, sy’n dal i achosi poen i mi.”

Fel rhan o’i hyfforddiant, mae Vic wedi llwyddo i feicio 755 o filltiroedd yn ystod 3 Her Fawr 3,000 o filltiroedd Grŵp TWW ym mis Awst, sy’n gyfanswm sylweddol.

Mae ein helusen staff, Mind Cymru, yn elusen sy’n agos at galon Vic.  Fel cyn-filwr yn y Lluoedd, rhyddhawyd Vic o’r Fyddin am resymau meddygol ar ôl 17 mlynedd o wasanaeth gyda’r Magnelwyr Brenhinol, ar ôl iddo gael diagnosis o gyflwr iechyd prin.

“Rwyf wedi colli nifer o ffrindiau oherwydd hunanladdiad, o ganlyniad i faterion iechyd meddwl ac mae nifer yn dioddef o hyd.  Maent yn dibynnu ar gefnogaeth gan asiantaethau fel Mind Cymru i gynnal eu hewyllys i fyw.”
Vic Cox 

“Rydyn ni i gyd yn adnabod rhywun sy’n agos atom sydd wedi dioddef neu sydd yn dioddef o faterion iechyd meddwl, felly roeddwn i eisiau herio fy hun i godi cymaint o arian ag y gallwn er mwyn helpu i’w cefnogi.”

“Roedd yn daith galed ond yn werth y boen.  Diolch i gefnogaeth fy nheulu, fy ffrindiau a’m cydweithwyr, rwyf wrth fy modd fy mod wedi llwyddo i odi £665 i gefnogi elusen bwysig iawn.”

Gallwch gyfrannu at dudalen JustGiving Vic, https://bit.ly/3kdMjuI

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk 07484 911100 Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.