Newyddion

09/03/2023

Ymhlith goreuon Cwmnïau Gorau

Hon oedd y flwyddyn pan fu’r byd yn dathlu priodas Tywysog a Thywysoges Cymru ac yn ddiweddarach, yn galaru ar ôl colli sylfaenydd Apple, Steve Jobs.

Yn ogystal, 2011 oedd y flwyddyn gyntaf pan gyhoeddwyd mai ni, Tai Wales & West, oedd y busnes nid-er-elw gorau i weithio iddo yng Nghymru, a chyrhaeddom rif 14 ar Restr Cwmnïau Gorau o’r cwmnïau gorau i weithio iddynt yn y DU.

I ddynodi ein hymrwymiad, rydym wedi cael Gwobr 10 Mlynedd Arbennig gan Gwmnïau Gorau. Mae’r wobr yn cydnabod ein hymrwymiad i wella ein gweithgarwch ymgysylltu gyda’n staff a’u profiad yn y gweithle.

I sicrhau ein lle yn rhestr Cwmnïau Gorau yn 2011, bu’r arbenigwyr ym maes ymgysylltu ym myd cyflogaeth, Cwmnïau Gorau, yn arolygu ein 336 o staff mewn ffordd ddienw, gan ddadansoddi’r ymatebion. Holwyd y staff am eu profiadau o weithio i WWH mewn nifer o feysydd gan gynnwys bodlonrwydd yn eu swydd, eu perthnasoedd gyda rheolwyr, eu datblygiad personol a phroffesiynol, cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, ymdeimlad o fodlonrwydd a diogelwch ariannol.

Rydym wedi parhau i ragori yn rhestrau Cwmnïau Gorau ac rydym wedi cael ein cydnabod yn gyson fel cyflogwr o safon byd, trwy sicrhau achrediad 3* Cwmnïau Gorau. Yn 2020, llwyddom i sicrhau’r wobr 3* fel cwmni Grŵp am y tro cyntaf, pan arolygwyd 492 o staff Tai Wales & West a 184 o bobl sy’n gweithio ar gyfer ein cwmni cynnal a chadw, sef Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria. Ar sail eu hadborth nhw, barnwyd mai ni yw’r gymdeithas dai orau i weithio iddi yng Nghymru.

Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr y Grŵp: “Mae cael y wobr arbennig hon gan Gwmnïau Gorau yn gyflawniad rhyfeddol. Fodd bynnag, mae safon unrhyw sefydliad yn seiliedig ar y bobl sy’n gweithio iddo, ac rydym yn ffodus bod gennym dimau eithriadol ac ymroddedig sy’n cydweithio bob dydd er mwyn gwneud gwahaniaeth.”

“Ers i ni gymryd rhan yn arolwg Cwmnïau Gorau am y tro cyntaf yn 2011, mae ein sefydliad wedi tyfu ac esblygu, ond mae ein hymrwymiad i fyw ein diwylliant a’n gwerthoedd wedi parhau yn gyson.

“Rydym yn gweithio’n galed i greu diwylliant cadarn o alluogi a grymuso ein pobl i wneud penderfyniadau, gan ddeall yr hyn a wnawn a pham ein bod yn ei wneud, ac ymddiried mewn staff i wneud y peth iawn ar gyfer ein preswylwyr. Hwn yw un o’r rhesymau pam bod ein pobl yn dymuno aros a pham bod pobl newydd yn dymuno dod i weithio i ni.
Anne Hinchey, Prif Weithredwr y Grŵp

“Mae ein llwyddiant parhaus fel y gymdeithas tai orau i weithio iddi yng Nghymru yn tystio i’n hymagwedd tuag at bwysigrwydd lles a bodlonrwydd staff.

“Rydym wedi gweithio gyda Chwmnïau Gorau am gyfnod mor hir gan bod eu dull gweithredu yn ein helpu i gael darlun clir o’r ffordd y mae ein staff yn teimlo a sut y maent yn dangos ein gwerthoedd o ddydd i ddydd.

“Trwy ymgysylltu â staff trwy arolwg Cwmnïau Gorau, gallwn gael dealltwriaeth well o’r rheswm pam bod pobl yn mwynhau gweithio yma. Mae’n cynnig y cyfle i ni ddeall yr hyn sy’n gweithio’n dda er mwyn

i ni allu rhannu arfer gorau ar draws adrannau, ac mae’n ein helpu i ddeall lle y gallai fod meysydd i’w gwella hefyd.

“Rydym yn dymuno denu a chadw’r talent gorau ac mae gan Gwmnïau Gorau enw da sy’n cynnig ymdeimlad o hyder i gyflogeion presennol a darpar gyflogeion o wybod ein bod yn gofalu am ein pobl a’n bod yn creu’r amgylchedd gorau ag y bo modd i bawb sy’n gweithio yng Ngrŵp WWH i wireddu eu potensial llawn.”

Mae Grŵp Tai Wales & West wedi sicrhau gwobr uchaf Buddsoddwyr mewn Pobl hefyd, sef y wobr Platinwm.

Yn arolwg diweddaraf Cwmnïau Gorau 2022, dyma rai o’r pethau a nodwyd gan ein staff pan y’u holwyd am y pethau y maent yn eu hoffi am ein diwylliant:

  • y ffordd mae Prif Weithredwr ein Grŵp, Anne Hinchey, yn croesawu pob aelod o staff newydd yn bersonol, trwy gael sgwrs ‘dod i’ch adnabod’ anffurfiol gyda nhw
  • ein ‘Hyrwyddwyr Lles’, sef grŵp o 45 o wirfoddolwyr sy’n cynnig cymorth cyntaf iechyd meddwl cyfrinachol i unrhyw staff y gallent fod yn teimlo nad oes ganddynt unrhyw un y gallant droi atynt
  • y ffordd y mae ein rheolwyr yn treulio amser yn y gwaith gyda staff i ddeall y sialensiau a’r llwyth gwaith
  • y cymorth a roddir i staff i dyfu mewn ffordd broffesiynol a phersonol er mwyn eu helpu i wireddu eu gwir botensial – gan gynnwys cymwysterau ffurfiol, eDdysgu a hyfforddiant mewnol pwrpasol
  • y ffordd yr ydym yn Datblygu ein Gweithlu ein Hunain, sef menter i ddenu talent i’n gweithlu ac i’r sector, a’u cynorthwyo
  • y cyfle i gael diwrnod gwaith ychwanegol am dâl bob blwyddyn er mwyn gwirfoddoli ar brosiectau sy’n agos i’w calonnau

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk 07484 911100 Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.