Newyddion

28/02/2023

Prosiect i roi hwb i hyder merched yn eu harddegau yn cael cefnogaeth gan Dai Wales & West

Bu deg o ferched yn eu harddegau a soniodd am eu profiadau bywyd fel rhan o brosiect i roi hwb i’w hyder a’u cydnerthedd, yn dathlu eu cyflawniadau mewn lansiad llyfr a gefnogwyd gan Dai Wales & West.

Rhannodd y merched 12-16 oed o Sir y Fflint eu straeon ar gyfer Look at me now yn dilyn menter 12 mis lle y cawsant eu mentora a’u cynorthwyo gan SoulSister Wellness a’i gyd-sylfaenwyr, Ruth Dive a Laura Evans.

Cychwynnodd Ruth a Laura SoulSister Wellness yn 2021 gyda’r nod o helpu pobl ifanc i wella eu hiechyd meddwl.

Gan ddefnyddio eu harbenigedd ym maes hyfforddiant iechyd, aethant ati i dywys y merched trwy gyfres o fentrau dros 12 mis er mwyn rhoi sgiliau bywyd, technegau ymdopi, sgiliau cyfathrebu gwell a’r cyfle iddynt feithrin arferion iach a pharhaus.

Roedd hyn yn cynnwys treulio amser yn ymgysylltu gyda busnesau lleol fel campfeydd, ffermydd a siopau, ac ar ddiwedd hwn, cyhoeddwyd Look at me now.

Ariannwyd rhan o lansiad y llyfr gan Dai Wales & West, o’i chronfa Gwneud Gwahaniaeth. Yn ogystal, treuliodd y merched ychydig amser yn siarad gyda phreswylwyr ym Mhlas yr Ywen, ein cynllun gofal ychwanegol yn Nhreffynnon, fel rhan o’r prosiect.

Dywedodd Laura: “Roedd y lansiad yn noson mor hyfryd, ac yn ffordd wych o ddathlu cyflawniadau’r merched a’r daith ryfeddol y maent wedi bod arni.

“Rydym yn ddiolchgar iawn am y cymorth a gawsom gan Dai Wales & West, ni fyddai wedi bod modd cynnal y lansiad heb eu cyllid nhw.

“Yr amser a dreuliwyd ym Mhlas yr Ywen oedd un o’r digwyddiadau mwyaf pwerus a gynhaliom i ddangos faint yr oedd hyder y merched wedi gwella ers y cyfarfod cychwynnol a gawsom gyda nhw pan gychwynnom y prosiect.

“Roeddem wedi paratoi tua 50 o gwestiynau iddynt eu holi i’r preswylwyr am eu profiadau bywyd. Buont yn sgwrsio gyda nhw yn hapus ac yn hyderus – nhw oedd yn arwain y sgwrs, gan holi’r holl gwestiynau, ac roedd hi’n hyfryd gweld hyn. Roedd y preswylwyr wrth eu bodd hefyd!”
Llwyddodd y llyfr i gyrraedd y brig mewn sawl categori Amazon ar ôl ei lansio, ac mae eisoes yn helpu merched eraill o oedran tebyg.

“Yr amser a dreuliwyd ym Mhlas yr Ywen oedd un o’r digwyddiadau mwyaf pwerus a gynhaliom i ddangos faint yr oedd hyder y merched wedi gwella ers y cyfarfod cychwynnol a gawsom gyda nhw pan gychwynnom y prosiect.”

Laura Evans, SoulSister Wellness

“Nid y prosiect ei hun yw’r unig beth a fu’n werth chweil,” dywedodd Ruth. “Mae gwaith y merched wedi cael effaith aruthrol ar bobl ifanc arall yn barod, gan eu helpu i ymdopi â phroblemau.

“Roedd yr hanesion yn real ac yn amrwd iawn am yr hyn y mae’r merched wedi ei brofi, ac roedd eu penderfyniad i ddatgelu cymaint yn benderfyniad dewr iawn.”

Mae cronfa Gwneud Gwahaniaeth Tai Wales & West yn cynnig rhywbeth yn ôl i’n preswylwyr a’u cymunedau. Mae’n cynnwys cyfraniadau gan ein cyflenwyr a’n contractwyr yn bennaf, sy’n gwneud cyfraniadau ychwanegol i’n contractau pan fyddant yn adeiladu ein cartrefi neu’n darparu gwasanaethau i ni. Gallwch gael gwybod mwy yma:
https://www.wwha.co.uk/cy/amdanom-ni/gwneud-gwahaniaeth/

Am ragor o wybodaeth am SoulSister Wellness, trowch at https://www.thessw.co.uk/

Andrew Price

andrew.price@wwha.co.uk07881 379 098 Andrew yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer Gogledd Cymru