Newyddion

21/03/2023

Tîm pêl-droed ieuenctid yn cynnig cit am ddim i’w chwaraewyr, diolch i gyllid Tai Wales & West

Ar ôl cael nawdd gan Dai Wales & West, mae tîm pêl-droed ieuenctid, a sylfaenwyd ar ethos cyfle cyfartal i bawb, wedi llwyddo i gynnig cit am ddim i’w chwaraewyr y tymor hwn.

Dywedodd Brian Valentine, sylfaenydd Shotton Town United, bod y rhodd i dalu am git chwaraewyr a hyfforddwyr wedi ‘tynnu pwysau enfawr oddi ar ysgwyddau pawb’ yn ystod yr argyfwng costau byw.

Roedd pandemig Covid wedi cael effaith ofnadwy ar gronfeydd y clwb pêl-droed, ac mae’r nawdd wedi caniatáu i’r clwb ddechrau ailadeiladu a thyfu.

Mae wedi bod yn rhedeg am wyth mlynedd ar ôl i Brian a rhai rhieni eraill sefydlu’r clwb ar y sail y ‘dylai pob plentyn chwarae,’ gan ganiatáu i bobl ifanc gael hyfforddiant a phrofiad o chwarae mewn gemau, beth bynnag fo eu cefndir neu eu gallu.

Dywedodd Brian: “I gwmni fel Tai Wales & West i ddod i mewn a rhoi cydnabyddiaeth am yr hyn yr ydym yn ei wneud, mae’n peri i ni deimlo’n arbennig iawn iawn fel clwb.

“Mae’r ardal hon yn Sir y Fflint lle’r ydym yn gweithredu yn un o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru, felly rydym yn gwybod bod llawer o galedi. O ganlyniad i haelioni’r cwmni, penderfynom eleni na fyddem yn codi tâl ar unrhyw un am eu cit.

“Mae’r holl blant wedi cael cit am ddim, sydd wedi tynnu’r faich oddi ar ysgwyddau rhieni, ac mae’r cyllid wedi cynorthwyo hyfforddiant hyfforddwyr hefyd.

Brian Valentine, Shotton Town United

“Rydym yn dymuno i bawb gael y cit, rydym yn dymuno iddynt edrych yn broffesiynol ac ni fyddem wedi gallu gwneud hyn heb Dai Wales & West.

“Mae’r plant wrth eu bodd gyda’r citiau, maent oll yn dweud ‘rydym i gyd yr un fath yma, nid oes unrhyw un yn wahanol;  un tîm ydym, un clwb.”

Dyfarnwyd y cyllid trwy raglen cymorth cymunedol Gwneud Gwahaniaeth Tai Wales & West, sy’n rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned.

Gyda chymorth y cyllid, mae Brian yn edrych ymlaen at dyfu’r clwb ymhellach nawr.

“Ffurfiom yn 2015, gan bod rhieni yn talu llawer o arian i’w plant fynychu clybiau eraill ac nid oeddent yn cael budd llawn pêl-droed,” dywedodd.

“I gwmni fel Tai Wales & West i ddod i mewn a rhoi cydnabyddiaeth am yr hyn yr ydym yn ei wneud, mae’n peri i ni deimlo’n arbennig iawn iawn fel clwb.”

Brian Valentine, Shotton Town United

“Dechreuom gynyddu a chynyddu a chynyddu gan ein bod yn cynnig rhywbeth ychydig yn wahanol, roeddem yn cynnig gwir brofiad ar lawr gwlad.  Rydym yn dymuno gweld y plant yn cael hwyl ar y cae.

“Roeddem wedi disgwyl y byddem yn cael dwy flynedd ohono yn unig, gan bod cryn gystadleuaeth yn yr ardal i glybiau.  Eleni, rydym wedi croesawu 90 o blant ychwanegol.  Y wefr i mi yw ceisio bodloni’r disgwyliadau cynyddol sydd gennym bob blwyddyn.”

Andrew Price

andrew.price@wwha.co.uk07881 379 098 Andrew yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer Gogledd Cymru