Newyddion

14/06/2019

Y gwaith yn cychwyn ar gynllun gofal ychwanegol cyntaf Aberystwyth

Mae’r gwaith wedi cychwyn ym Mhlas Morolwg i adeiladu cynllun gofal ychwanegol cyntaf y dref. 

Mae’r safle, sydd o fewn cilomedr i ganol y dref, yn mwynhau golygfeydd godidog dros y dref a’i harbwr ac ar ôl ei orffen, bydd yn darparu 56 o fflatiau newydd cyfoes. 

Ymwelodd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, Cyng Ellen ap Gwynn, â‘r safle, gan gyfarfod â Shayne Hembrow yno, sef Dirprwy Brif Weithredwr Grŵp Tai Wales & West, i weld sut y mae’r gwaith yn dod yn ei flaen. 

Dywedodd:  “Roeddwn yn falch iawn o gael gwahoddiad i ddod i weld y safle a’r cynlluniau ar gyfer Plas Morolwg, sef y cynllun gofal ychwanegol arfaethedig. 

Bydd y cyfleuster newydd a modern hwn yn cynnig y cyfle i rai o’n preswylwyr mwy agored i niwed fyw bywyd annibynnol mewn fflat gyda’u drws ffrynt eu hunain, ond hefyd, o fewn cyrraedd gwasanaethau cymunol hanfodol a gofal 24 awr pan fydd ei angen arnynt. 

Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, Cyng Ellen ap Gwynn

Mae hyn yn rhan o strategaeth Cyngor Sir Ceredigion i foderneiddio’r ddarpariaeth gofal ar gyfer ein preswylwyr oedrannus. Edrychaf ymlaen at weld Plas Morolwg yn Aberystwyth yn agor yn 2021.” 

Ychwanegodd Shayne Hembrow:  “Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ni fod yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ceredigion a Llywodraeth Cymru er mwyn dwyn y cynllun gofal ychwanegol hwn i Aberystwyth.  Mae’n amlwg bod galw am ofal a thai ar gyfer pobl hŷn ac agored i niwed dan yr un to yn ardal gogledd Ceredigion. 

Mae gan ein partneriaid, Anwyl, brofiad o adeiladu cynlluniau gofal ychwanegol ac maent wedi ymrwymo i ddefnyddio cyflenwyr a chontractwyr lleol er mwyn cadw cymaint o fuddsoddiad ag y bo modd yn y gymuned leol. 

Rydym yn dymuno i’r datblygiad hwn greu cyfleoedd gwaith, swyddi newydd a phrentisiaethau ar gyfer pobl leol, gan gynnig manteision a phrosiectau eraill er mwyn gwneud gwahaniaeth i’r gymuned gyfagos.”
Dirprwy Brif Weithredwr Grŵp Tai Wales & West

Disgwylir i’r preswylwyr cyntaf symud i mewn i’r cynllun yn 2021.  Ar ôl ei gwblhau, bydd y cynllun yn cyflogi tua 30 o staff. 

Mae’r cynllun gofal ychwanegol newydd yn ffrwyth partneriaeth rhwng Cyngor Sir Ceredigion, Llywodraeth Cymru a Thai Wales & West, a bydd yn costio dros £9 miliwn. 

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk 07484 911100 Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.