Newyddion

20/06/2019

Tai Wales & West yn rhoi dros £35,000 er mwyn helpu pobl hŷn yng Nghymru

Codwyd yr arian gan 400 o aelodau o staff WWH dros ddwy flynedd, wrth iddynt godi arian trwy gynnal rafflau rheolaidd, gwerthu cacennau, cynnal diwrnodau gwisgo dillad anffurfiol a rhoi ceiniogau o’u cyflogau. Roedd digwyddiadau codi arian arbennig megis her feicio elusennol noddedig Ride the Nation o Ogledd i Dde Cymru a thwrnamaint rygbi a noddwyd gan gyn chwaraewyr rygbi Cymru, wedi helpu i godi swm mwy nag a godwyd erioed o’r blaen gan y gymdeithas.

Mae Age Cymru yn darparu amrediad o weithgareddau megis Tai Chi, Cerdded Nordig, sesiynau hyfforddiant ysgafn a Gŵyl y Gwanwyn flynyddol sy’n ymwneud â’r Celfyddydau a Chreadigrwydd. Yn ogystal, mae’n cynnal gwasanaethau cyngor a chymorth gan gynnwys llinell ffôn ddwyieithog sy’n cynnig cyngor a gwybodaeth, a oedd wedi helpu pobl hŷn i hawlio dros £6.5m o gyllid yr oeddent yn gymwys i’w gael yn ystod y llynedd yn unig.

Ymwelodd Prif Weithredwr Grŵp Tai Wales & West, Anne Hinchey, â grŵp Tai Chi ym Mhafiliwn y Pier, Penarth, er mwyn gweld sut y mae’r gweithgareddau a ddarparir gan Age Cymru yn helpu pobl hŷn i gysylltu.

Dywedodd: “Yn Nhai Wales & West, rydym yn darparu cartrefi ar gyfer 22,000 o bobl ar draws Cymru ac mae bron i un o bob pump o’n preswylwyr dros 65 oed. Pan fu’r staff yn pleidleisio dros yr elusen yr oeddent yn dymuno ei chefnogi, Age Cymru oedd yr enillydd amlwg.

“Mae’r elusen yn gwneud gwaith gwych wrth sicrhau na fydd pobl yn methu manteisio ar y gweithgareddau cymdeithasol y maent yn eu mwynhau wrth iddynt fynd yn hŷn. Gyda gweithgareddau fel Tai Chi a cherdded Nordig, mae’r pwyslais lawn gymaint ar gymdeithasu ag y mae ar wella iechyd corfforol. Trwy gyfrwng amrediad ei ymgyrchoedd, mae’n sicrhau bod lleisiau pobl hŷn yng Nghymru yn cael eu clywed pan wneir penderfyniadau amdanynt.”
Prif Weithredwr Grŵp Tai Wales & West, Anne Hinchey

Dywedodd Prif Weithredwr Age Cymru, Victoria Lloyd: “Un o’r camau allweddol ar y daith er mwyn sicrhau Cymru sy’n gyfeillgar i bobl o bob oed yw cysylltu pobl er mwyn helpu i oresgyn unigrwydd ac arwahanrwydd, y dywedir ei fod yn effeithio ar fwy nag un o bob pedwar unigolyn hŷn yng Nghymru.

“Ceir nifer o resymau pam y bydd pobl hŷn yn mynd i deimlo’n unig. Wrth i bobl ymddeol, efallai y byddant yn colli cyswllt gyda chydweithwyr, a bydd eraill yn unig ar ôl iddynt ddioddef profedigaeth. Gall iechyd gwael a chaledi ariannol olygu y bydd pobl hŷn fel carcharorion yn eu cartref eu hunain. Mae toriadau i wasanaethau lleol megis llwybrau bysiau, llyfrgelloedd a chanolfannau dydd wedi gwaethygu’r broblem.

“Mae cryn dipyn o’n gwaith yn ceisio galluogi pobl hŷn i gymryd rhan yn eu cymunedau a mwynhau cwmnïaeth eraill.”

“Rydym yn hynod o ddiolchgar i staff Tai Wales & West am eu hymdrechion gwych i godi arian, sydd wedi arwain at rodd mor hael er mwyn cynorthwyo ein gwaith wrth greu Cymru sy’n gyfeillgar i bobl o bob oed.”
Prif Weithredwr Age Cymru, Victoria Lloyd

Dros y 14 mlynedd ddiwethaf, mae staff WWH wedi codi dros £140,000 ar gyfer nifer o elusennau gan gynnwys Ymchwil Canser Cymru, Cymdeithas Strôc, Help For Heroes, Cymdeithas Alzheimer, NSPCC, Tenovus ac Ambiwlans Awyr Cymru a Chŵn Tywys. Mae’r staff yn codi arian ar gyfer Mind Cymru ar hyn o bryd.

 

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk 07484 911100 Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.