Newyddion

01/05/2019

Plant ysgol Prestatyn yn helpu i ddewis enw stryd newydd

Bu hanes a daearyddiaeth Prestatyn yn ysbrydoliaeth i’r disgyblion a fu’n helpu i ddewis enw stryd newydd ger eu hysgol.

Gofynnodd Tai Wales and West i blant yn Ysgol Penmorfa i gynnig syniadau am enw ffordd lle y caiff 10 o’i chartrefi newydd eu lleoli oddi ar Ffordd Grosvenor.

Gan annog y plant i ymchwilio i’w hardal leol, gadawyd blwch postio yn yr ystafell ddosbarth er mwyn iddynt gynnig enwau, a lluniwyd rhestr fer o saith enw.

Roedd y rhain yn cynnwys enwau a oedd yn dilyn thema glan môr fel Ffordd Cefnfor a Ffordd y Môr, ac roedd dau yn ymwneud â chyfraith a threfn, sef Ffordd Llys a Ffordd Cyfiawnder, a oedd yn tarddu o hen safle Llys Ynadon Prestatyn, y mae’r cartrefi newydd yn ei ddisodli.

Ond yr enw mwyaf poblogaidd ymhlith y plant 8-9 oed oedd Ffordd Penmorfa.

Dywedodd yr athrawes, Liz Alexander:  “Roedd y plant wedi cael tipyn o hwyl yn creu’r enwau a bu hyn yn fodd iddynt ddysgu mwy am yr ardal y maent yn byw ynddi ar yr un pryd.

“Bydd yr enw a ddewiswyd ganddynt yn rhywbeth a fydd yn eu hatgoffa o’u gwaith a’u creadigrwydd am byth, ac mae hyn yn wych, ac rydym yn ddiolchgar iawn i Dai Wales & West am ofyn i ni gymryd rhan.”

Cyflwynodd Tai Wales & West iPad newydd i’r ysgol er mwyn diolch i’r plant am eu help.

“Roedd y plant wedi cael tipyn o hwyl yn creu’r enwau a bu hyn yn fodd iddynt ddysgu mwy am yr ardal y maent yn byw ynddi ar yr un pryd.”

Liz Alexander, athrawes Ysgol Penmorfa

Dywedodd Alison Hammans, Swyddog Datblygu:  “Rydym wastad yn awyddus i gynnwys y gymuned leol gymaint ag y bo modd pan fyddwn yn adeiladu cartrefi newydd, ac rydym wrth ein bodd bod y plant wedi cymryd yr amser i helpu wrth enwi’r datblygiad newydd hwn ym Mhrestatyn.”

Mae 20 o gartrefi rhad-ar-ynni Tai Wales & West yn cael eu hadeiladu oddi ar Ffordd Victoria, ac maent yn cynnwys cymysgedd o fflatiau a thai dwy ystafell wely sy’n addas i deuluoedd.  Disgwylir i’r datblygiad gael ei gwblhau yn ystod yr haf eleni.

Andrew Price

andrew.price@wwha.co.uk07881 379 098 Andrew yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer Gogledd Cymru