Newyddion

15/08/2019

Tai Wales & West yn rhoi arian i Heddlu Gogledd Cymru er mwyn talu am ddigwyddiad chwaraeon yn ystod yr haf

Mae Tai Wales & West wedi rhoi bron i £600 mewn arian parod a dalwyd yn ôl gan fandaliaid a ddifrododd rwystr mewn maes parcio, er mwyn talu am ddigwyddiad chwaraeon yn ystod yr haf ar gyfer pobl ifanc.

Llwyddodd Heddlu Gogledd Cymru i ddod o hyd i bedwar person ifanc a gyflawnodd y difrod yn ystod y digwyddiad ym mis Rhagfyr 2017, a ffilmiwyd ar CCTV yn ein swyddfa ym Mharc Dewi Sant, Ewlo, yng Ngogledd Cymru.

Deliwyd â’r troseddwyr trwy gyfrwng Gorchymyn Penderfyniad Cymunedol, a thalont y swm o £571.99 yn uniongyrchol i’r gymdeithas am y difrod a achoswyd, gan osgoi euogfarn ffurfiol neu gofnod troseddol.

Bellach, defnyddir yr arian i dalu am ddigwyddiad chwaraeon blynyddol a gynhelir yn ystod yr haf, a sefydlwyd dair blynedd yn ôl er mwyn mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Ewlo a Phenarlâg.

“Mae Heddlu Gogledd Cymru yn hynod ddiolchgar am y rhodd a roddwyd gan WWH, sy’n golygu y gellir cynnal digwyddiad Ieuenctid yr Haf Penarlâg am y drydedd flwyddyn.”
PCSO Stephanie Jones, Heddlu Gogledd Cymru

Cynhelir y digwyddiad eleni ar ddydd Iau 22 Awst rhwng 3pm a 5pm yng Nghaeau Chwarae Gladstone, Penarlâg.

Caiff ei redeg gan hyfforddwyr chwaraeon cymwys, a bydd yn cynnwys sorbiau wedi’u llenwi ag aer a maes pêl-droed wedi’i lenwi ag aer.

Dywedodd Geraint Parry o Grŵp Tai Wales & West: “Y ffordd orau y gallem wario’r arian a roddwyd i ni oedd cefnogi’r digwyddiad chwaraeon am flwyddyn arall. Trwy weithio mewn partneriaeth â Heddlu Gogledd Cymru a chefnogi mentrau fel hyn, gallwn helpu i wneud gwahaniaeth yn y gymuned.”

Dywedodd PCSO Stephanie Jones: “Mae Heddlu Gogledd Cymru yn hynod ddiolchgar am y rhodd a roddwyd gan WWH, sy’n golygu y gellir cynnal digwyddiad Ieuenctid yr Haf Penarlâg am y drydedd flwyddyn.

“Mae digwyddiadau chwaraeon yr haf yn gyfle gwych i waredu rhwystrau rhwng pobl ifanc a’r Heddlu, gan gynnig cyfle i addysgu pobl ifanc am yr effeithiau niweidiol y gall Ymddygiad Gwrthgymdeithasol eu cael ar gymuned.”

Y llynedd, ariannodd WWH sesiwn bêl-droed wythnosol hefyd, a ddyfeisiwyd gan Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Sir y Fflint er mwyn mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Ewlo a Phenarlâg.

Andrew Price

andrew.price@wwha.co.uk07881 379 098 Andrew yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer Gogledd Cymru