Newyddion

15/07/2019

Plant ysgol yn helpu i greu cartref ar gyfer natur

Mae disgyblion cynradd ym Mhowys yn helpu i ddwyn natur i mewn i’w cymuned.

Bu disgyblion Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llanbedr yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth i ddylunio arwyddion ar gyfer gardd natur gymunedol newydd wrth ymyl datblygiad tai gwledig fforddiadwy Tai Wales & West yng Nghlos Sant Pedr.

Trefnwyd y gystadleuaeth gan Gyngor Cymuned Dyffryn Grwyne, sy’n prydlesu’r tir wrth WWH er mwyn creu’r ardd.

Dadorchuddiwyd y dyluniadau buddugol gan Kirsty Williams AC, Prif Weithredwr Grŵp WWH, Anne Hinchey a David James, Swyddog Galluogi Tai Gwledig Powys a Sir Fynwy, yn ystod parti a lansiad swyddogol yr ardd natur a gynhaliwyd ar ddydd Gwener, 28 Mehefin. Noddwyd y digwyddiad gan WWH.

Cyflwynwyd gwobr o £10 i Eleri Smith a Ryan Griffiths, 8 oed, ac i Daisy Deeble, 10 oed, a rhoddwyd y lle blaenllaf i’w dyluniadau buddugol yn yr ardd. Cyflwynwyd bagiau anrhegion WWH i’r holl ddisgyblion a oedd wedi cymryd rhan.

Crëwyd yr ardd natur blodau gwyllt fel rhan o ymrwymiad WWH i ddarparu cyfleusterau cymunedol wrth ymyl ei ddatblygiad tai yng Nghlos Sant Pedr.

Yn ogystal â darparu wyth o gartrefi fforddiadwy ecogyfeillgar i bobl leol eu rhentu a’u prynu, gweithiodd WWH gyda’r gymuned i greu rhandiroedd a neilltuo tir i Gyngor Cymuned Dyffryn Grwyne er mwyn iddynt ddatblygu gardd natur.

Bellach, mae’r ardd natur blodau gwyllt yn cynnwys coed afalau bach surion, gwesty pryfaid, bocsys nythu, boncyff sgrialu a meinciau lle y gall ymwelwyr o bob oed eistedd a mwynhau’r byd natur o’u cwmpas.

Dywedodd Prif Weithredwr Grŵp WWH, Anne Hinchey: “Mae’r ardd yn enghraifft wych o’r ffordd y gall pobl a byd natur fyw mewn harmoni ochr yn ochr. Mae’r plant ysgol a’r cynghorwyr cymuned wedi gweithio’n galed i greu’r cartrefi hyn ar gyfer adar, pryfaid a blodau gwyllt, glaswellt a choed.

“Mae’n rhywbeth parhaol i’n hatgoffa o’n hymrwymiad i greu cartrefi fforddiadwy ac ecogyfeillgar o ansawdd i bobl leol yn ardal Llanbedr.

“Mae’r cartrefi yr ydym wedi’u hadeiladu yng Nghlos Sant Pedr yn cynnwys paneli solar a phympiau gwres ffynhonnell aer, sy’n helpu i gadw biliau ynni y preswylwyr yn isel, gan leihau allyriadau carbon er mwyn helpu’r amgylchedd.

“Mawr obeithiaf y bydd ein preswylwyr, y deiliaid rhandiroedd cyfagos a’r gymuned ehangach yn mwynhau heddwch a llonyddwch yr ardd natur am flynyddoedd i ddod.”
Anne Hinchey, Prif Weithredwr Grŵp WWH 

Dywedodd Kirsty Williams “Rydw i mor falch o weld bod y gwaith o greu Gardd Natur Clos St Peter wedi dwyn ffrwyth.  Mae’n hyfryd gweld cymaint o wahanol bobl yn dod ynghyd er mwyn cyflawni hyn, a hoffwn longyfarch Ysgol Llanbedr yn arbennig a’r disgyblion a luniodd ddyluniadau mor rhagorol ar gyfer yr arwyddion.”

“Mae’n hyfryd gweld cymaint o wahanol bobl yn dod ynghyd er mwyn cyflawni hyn.”
Kirsty Williams AC

Dywedodd David James, Swyddog Galluogi Tai Gwledig Sir Fynwy a Phowys:  “Mae’n wych gweld y cynllun hwn yn cael ei gwblhau, diolch i ymrwymiad Tai Wales & West a brwdfrydedd y Cyngor Cymuned.  Mae’n dangos yr hyn sy’n gallu digwydd wrth wneud gwaith da mewn partneriaeth.

“Mewn pentref bach fel Llanbedr, mae datblygiad fel hwn yn gwneud cyfraniad sylweddol i gynaladwyedd y pentref, gan ddarparu cartrefi fforddiadwy sy’n caniatáu i deuluoedd ifanc lleol aros yn y pentref a magu eu teuluoedd mewn amgylchedd diogel.”
David James, Swyddog Galluogi Tai Gwledig Sir Fynwy a Phowys

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk 07484 911100 Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.