Newyddion

20/05/2022

Tai Wales & West yn noddi dychweliad Twrnamaint Pêl-droed Plant Clwb Pêl-droed Tref Merthyr

Bydd cannoedd o bêl-droedwyr ifanc yn cael y cyfle i ddilyn ôl troed pêl-droedwyr enwog o Gymru gyda chymorth Tai Wales & West.

Mae’r darparwr tai o Gymru wedi noddi Twrnamaint Pêl-droed Plant blynyddol Clwb Pêl-droed Tref Merthyr, sy’n dychwelyd i stadiwm y clwb ar 21 a 22 Mai.

Mae’r ŵyl yn denu cannoedd o bêl-droedwyr ifanc rhwng 6 ac 11 oed sy’n chwarae ar gyfer 130 o dimau ar draws de Cymru.  Defnyddir y nawdd i ddarparu medalau i’w cyflwyno i’r holl blant a fydd yn cymryd rhan ac er mwyn helpu i dalu’r costau o drefnu’r digwyddiad.

Mae Tai Wales & West wedi darparu’r nawdd fel rhan o’i chronfa Gwneud Gwahaniaeth, sy’n gweithio gyda’i chyflenwyr a’i chontractwyr i roi rhywbeth yn ôl i’r cymunedau lleol trwy gefnogi grwpiau cymunedol a chwaraeon a phrosiectau lleol.

“Mae’r cyllid gan Dai Wales & West yn golygu y gall Clwb Pêl-droed Tref Merthyr gynnig diwrnod diogel a phleserus i gannoedd o blant a’u teuluoedd.  Bydd y plant yn cael y cyfle i gystadlu ar faes pêl-droed synthetig newydd mewn stadiwm pêl-droed traddodiadol, lle y mae nifer o bêl-droedwyr enwog wedi ymddangos dros y blynyddoedd, gan gynnwys John Charles.”
Llefarydd ar ran Clwb Pêl-droed Tref Merthyr, John Strand

“Byddai’n anodd darparu’r amgylchedd priodol ar gyfer nifer mor fawr o blant a’u teuluoedd heb gefnogaeth Tai Wales & West.  Heb y gefnogaeth honno, byddai’n rhaid i’r digwyddiad gwtogi nifer y bobl ifanc a fyddai’n gallu cymryd rhan yn sylweddol.”

Dywedodd Prif Weithredwr Grŵp WWH, Anne Hinchey:  “Rydw i’n falch bod Tai Wales & West yn gallu noddi’r digwyddiad poblogaidd hwn a chynnig diwrnod i’w gofio i’r holl bobl ifanc a fydd yn cymryd rhan, yn ogystal â medal i’w chadw.

“Mae Clwb Pêl-droed Tref Merthyr yn gwneud gwaith gwych wrth gynnwys pobl o bob oed, rhyw a gallu yn eu gweithgareddau ac mae’r Ŵyl Bêl-droed i Blant yn enghraifft dda.  Mae’n cynnig y cyfle i gymaint o bêl-droedwyr ifanc ar draws de Cymru chwarae twrnameintiau mewn stadiwm lled-broffesiynol.

“Ar ôl y blynyddoedd diwethaf, mae digwyddiadau fel hyn mor bwysig ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol y bobl ifanc a’u teuluoedd sy’n cymryd rhan.  Mawr obeithiaf y bydd pawb sy’n cymryd rhan yn cael hwyl ac yn mwynhau’r profiad.”
Prif Weithredwr Grŵp WWH, Anne Hinchey

 

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk 07484 911100 Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.