Newyddion

22/05/2022

Rydym yn rhoi dros £46,000 i helpu i gefnogi gwasanaethau cymorth iechyd meddwl yng Nghymru

Bydd cannoedd o bobl yng Nghymru sy’n wynebu problemau iechyd megis gorbryder ac iselder yn gallu cael help gyda’u lles meddyliol, diolch i ymdrechion staff Grŵp Tai Wales & West i godi mwy o arian nag y gwnaethant erioed o’r blaen.

Mae staff y darparwr tai wedi rhoi dros £46,000 i Mind Cymru – ffrwyth dwy flynedd o weithgarwch codi arian yn ystod y cyfnodau clo.

Pan oedd pawb gartref a phan oedd rhai yn gwarchod eu hunain, aeth staff WWHG ati i godi arian ar-lein, gan godi mwy o arian nag y gwnaethant erioed o’r blaen.  Un o’r uchafbwyntiau oedd Her y 3 Mawr WWHG yn ystod yr haf 2020.  Dros 3 wythnos, estynnwyd gwahoddiad i’r 820 o staff sy’n gweithio yn y Grŵp i ymgymryd â her bersonol a oedd yn cynnwys rhif 3, a lwyddodd i godi dros £3,500.  Roedd rhai o’r gweithgareddau’n cynnwys rhedeg, cerdded a beicio 3,000 o filltiroedd, coginio 333 o gacennau bychain, dysgu 3 tric newydd i anifail anwes, llwytho 333 o fyrnau gwair ar dractor a chymryd 30 ffotograff wrth warchod eu hunain.  Penderfynodd rhai staff roi odrifau y ceiniogau o’u cyflog i Mind Cymru hefyd, a gododd miloedd o bunnoedd.

Estynnwyd gwahoddiad i Sue O’Leary, Cyfarwyddwr Mind Cymru, i brif swyddfa WWHG yn Llanisien, Caerdydd, i gael siec am y cyfanswm a godwyd.

Dywedodd: “Mae hwn yn swm rhyfeddol.  Diolch yn fawr iawn am y cyfraniad anhygoel hwn.”

“Mae’r angen am gymorth iechyd meddwl wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod y pandemig.  Mae un o bob tri unigolyn sy’n defnyddio ein gwasanaethau erbyn hyn yn dweud nad ydynt fyth wedi cael problemau iechyd meddwl o’r blaen.  Mae’n effeithio ar bobl sy’n dioddef caledi ariannol, pobl duon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ifanc yn arbennig.”

Dyma rai o’r gwasanaethau a gynigir gan Mind Cymru:

  • Llinell gymorth – sy’n darparu gwybodaeth a gwasanaeth cyfeirio pan fydd pobl ei angen fwyaf
  • Rhwydwaith o ganghennau Mind Lleol – sy’n cynorthwyo pobl yn eu cymunedau gyda gwasanaethau megis cwnsela a therapïau
  • Gwybodaeth – trwy ei wefan a’i gyhoeddiadau
  • Cymorth yn y gweithle – sicrhau bod pobl yn cael y cymorth gorau yn y gwaith
  • Ymgyrchu – er mwyn gwella gwasanaethau, codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo dealltwriaeth
  • Ochr wrth Ochr – platfform cymorth cymheiriaid ar-lein sy’n creu lle i bobl gysylltu â’i gilydd
  • Monitro Gweithredol – cynnig ymyrraeth gynnar i’r rhai dros 18 oed.  Gall unrhyw un sy’n gofyn am gymorth gael chwe wythnos o gymorth hunangymorth gydag arweiniad gan ymarferwr iechyd meddwl naill ai wyneb yn wyneb neu dros y ffôn.  Gall y sesiynau ganolbwyntio ar orbryder, iselder, straen, hunan-barch, unigrwydd, dicter, galar, a cholled.

Ychwanegodd Sue O’Leary:  “Mae tua 85 y cant o bobl sy’n defnyddio ein gwasanaeth Monitro Gweithredol yn dweud eu bod yn profi llai o orbryder ac iselder a bod eu hymdeimlad o les yn gwella.

“Bydd yr arian a godir gan staff WWHG yn ariannu ein gwaith a’n gwasanaethau lle y mae eu hangen fwyaf.” 
Sue O’Leary, Cyfarwyddwr Mind Cymru

Dywedodd Prif Weithredwr Grŵp Tai Wales & West, Anne Hinchey:  “Wrth i ni ddod allan o’r pandemig, ceir mwy o angen am gymorth iechyd meddwl nag erioed o’r blaen.

“Trwy gyfrwng eu rhwydwaith o 19 o ganghennau Mind lleol ar draws Cymru, mae Mind Cymru yn gweithio’n galed i sicrhau bod pawb sy’n dioddef problem iechyd meddwl yn cael y cymorth a’r parch y maent yn ei haeddu.

“Mae ein staff wedi gweithio’n galed i godi swm mor anhygoel hefyd.  Rydw i’n falch ohonynt a’r ffyrdd rhyfeddol ac arloesol y maent wedi ymateb i rai o’n sialensiau.  Gyda’n gilydd, rydym wedi llwyddo i wneud gwahaniaeth i Mind Cymru a’i ymrwymiad i wella iechyd meddwl.” 
Dywedodd Prif Weithredwr Grŵp Tai Wales & West, Anne Hinchey

Er 2006, mae staff WWHG wedi codi dros £160,000 ar gyfer elusennau sy’n cynnwys Age Cymru, Cymdeithas Strôc, Help For Heroes, Cymdeithas Alzheimer, NSPCC, Tenovus a Chŵn Tywys.  Ar hyn o bryd, maent yn codi arian ar gyfer Beiciau Gwaed Cymru ac Ambiwlans Awyr Cymru.

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk 07484 911100 Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.