Newyddion

19/04/2022

Galw ar arlunwyr lleol i helpu i greu gwaith celf ar gyfer safle Ysbyty Aberteifi

Mae Tai Wales & West yn galw ar arlunwyr lleol i feddwl am syniadau am ddarn o waith celf fel rhan o’u gwaith o ailddatblygu safle Ysbyty Aberteifi.

Yn ystod yr haf, bydd contractwyr lleol, TRJ (Bettws) Ltd, yn cychwyn ar y gwaith o adeiladu’r prosiect, a fydd yn rhoi’r Priordy hanesyddol wrth galon datblygiad newydd o fflatiau sy’n defnyddio ynni mewn ffordd effeithlon, swyddfeydd, caffi cymunedol a llwybrau cerdded a gardd gyhoeddus ar lan yr afon.

Fel rhan o gam nesaf y datblygiad i adeiladu 34 o fflatiau i’w rhentu i bobl leol a swyddfeydd newydd ar gyfer staff y Grŵp, mae Tai Wales & West (WWH) yn dymuno comisiynu arlunydd lleol i greu gwaddol artistig parhaol ar gyfer y safle.

Cardigan Hospital CGI

Mae dyluniad y fflatiau yn adlewyrchu pensaernïaeth y Priordy ac Eglwys Santes Fair gerllaw, sy’n adeilad Gradd II rhestredig, a bydd yn cynnwys cwrt a llwybrau clawstrog i breswylwyr, lle y byddai modd gosod y gwaith celf a ddewisir.

Dywedodd Gareth Thomas, Rheolwr Datblygu Rhanbarthol WWH ar gyfer Gorllewin Cymru:  “Mae hwn yn gyfle gwych i weithio gydag arlunydd neu arlunwyr lleol, gan greu darn o waith celf pwrpasol a allai adlewyrchu hanes y safle neu gyd-fynd â’n dyluniadau ar gyfer y safle.

“Un syniad fyddai creu darn o waith a fyddai’n gallu cyd-fynd gyda dyluniad porth y bloc o fflatiau, ond ceir cwmpas ehangach hefyd i osod gwaith celf o fewn y pyrth neu yn y safle y tu allan i’r pyrth hynny.  Ceir safleoedd eraill hefyd ym Mhont-Y-Cleifion neu wrth y fynedfa i’r safle ei hun ar y cornel, y byddai modd ei ddefnyddio hefyd.

“Gallai unrhyw rai o’r ardaloedd hyn gynnig cynfas ar gyfer rhywfaint o waith celf deongliadol. Efallai y bydd yr arlunwyr yn gweld cyfleoedd eraill.  Rydym yn agored i gymaint o syniadau ag y bo modd ac nid ydym yn chwilio am ‘arddangosyn’ o reidrwydd. Gallai’r gwaith celf gael ei adeiladu i fod yn rhan o’r cynllun.

“Bwriedir i’r datblygiad newydd ddefnyddio cyfanswm isel iawn o ynni, lleihau’r ddibyniaeth ar danwydd ffosil, a lleihau tlodi tanwydd, felly gallai’r arlunydd ddewis yr elfen hon fel eu hysbrydoliaeth.

“Neu gallent gael eu hysbrydoli gan hanes cyfoethog y safle neu ei leoliad fel porth i’r dref.  Rydym yn dymuno i arlunwyr fod mor ddychmygus a chreadigol ag y gallant fod.”

“Rydym yn agored i gymaint o syniadau ag y bo modd ac nid ydym yn chwilio am ‘arddangosyn’ o reidrwydd.  Gallai’r gwaith celf gael ei adeiladu i fod yn rhan o’r cynllun.”

Gareth Thomas, Rheolwr Datblygu Rhanbarthol WWH ar gyfer Gorllewin Cymru

“Rydym yn agored i awgrymiadau am y math o ddeunydd neu gyfrwng hefyd.  Gallai fod yn baent, ond yn yr un modd, gallai fod yn bren, yn fetel, yn goncrid, yn waith cerrig, neu’n ddeunyddiau eraill.

“Yr unig beth y mae angen i ni ei ystyried yw ymarferoldeb y darn o waith a’i gynnal a’i gadw, gan bod angen iddo fod yn gadarn, yn gallu para ac yn rhydd rhag gorfod gwneud gwaith cynnal a chadw arno, a bydd angen iddo gyd-fynd â’n hamserlen adeiladu.”

“Byddwn yn ystyried yr holl awgrymiadau cyn mynd ati i lunio rhestr fer o’r syniadau y byddwn yn eu ffafrio, a byddwn yn ymgynghori gyda’r cynllunwyr yng Nghyngor Sir Ceredigion cyn gwneud ein penderfyniad terfynol.”

Dylai arlunwyr sydd â diddordeb Fynegi eu Diddordeb (EoI) trwy gysylltu â gareth.thomas@wwha.co.uk a rhiannon.ling@wwha.co.uk erbyn 9am ar ddydd Llun, 9 Mai.

Dylai’r EoI gynnwys esboniad o’r syniad gan gynnwys amserlen er mwyn creu’r gwaith, y costau a’r ffioedd yn fras, ynghyd ag unrhyw ofynion gan WWH neu’r contractwyr i gyflawni’r comisiwn.

Andrew Price

andrew.price@wwha.co.uk07881 379 098 Andrew yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer Gogledd Cymru