Newyddion

21/11/2018

Tai Wales & West yn cael ei chynnwys yn y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Nodedig Buddsoddwyr Mewn Pobl 2018

Mae Tai Wales & West wedi cael ei chynnwys yn y rhestr fer ar gyfer gwobr Cyflogwr Platinwm y Flwyddyn Gwobrau Buddsoddwyr mewn Pobl 2018, sy’n cydnabod arweinwyr ym maes arfer rheoli pobl ar draws y byd.

Mae WWH wedi cyrraedd y rownd derfynol yn y categori ar gyfer sefydliadau sy’n cynnwys dros 250 o gyflogeion ac y maent wedi sicrhau Safon Platinwm BmP – y marc rhagoriaeth uchaf yn y wlad ym maes rheoli pobl a busnes.

Ym mis Chwefror, WWH oedd y cyntaf yng Nghymru i sicrhau Safon Platinwm, gan gydnabod y ffaith bod y sefydliad yn gyflogwr gwych i’w 450 o staff, ond hefyd, ei fod yn “gwneud gwahaniaeth” i’r 20,000 o breswylwyr sy’n byw yn ei gartrefi a’u cymunedau.

Mae Gwobrau Buddsoddwyr mewn Pobl yn dathlu’r arferion rheoli pobl gorau ymhlith busnesau sydd wedi sicrhau achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl.  Mae’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn cynrychioli’r perfformwyr gorau ym maes rheoli pobl ar draws y byd.  Cynhelir y dathliadau ar gyfer yr enillwyr mewn seremoni wobrwyo yn Llundain ar 28 Tachwedd 2018.

Dywedodd Prif Weithredwr Tai Wales & West, Anne Hinchey:  “Mae’n fraint cael ein cynnwys yn y rhestr fer ar gyfer y gwobrau hyn;  arwydd clir o’r ymroddiad a’r gwaith caled y mae pawb yn Nhai Wales & West wedi’i fuddsoddi yn y busnes.

“Fel un o’r darparwyr tai cymdeithasol mwyaf yng Nghymru, ein pobl sydd wedi ysgogi ein sefydliad a diffinio ein diwylliant.  Mae pob un o’n staff wedi cyfrannu at ein llwyddiant trwy wneud y gwahaniaeth hwnnw i’r bobl sy’n byw yn ein cartref a’n cymunedau.”

Cyn sicrhau’r Safon Platinwm, roedd Tai Wales & West wedi dal Gwobr Aur Buddsoddwyr mewn Pobl yn 2012 a 2014.  Yn ogystal, roedd rhestr Cwmnïau Gorau 2017 Sunday Times wedi barnu mai WWH oedd y busnes dielw gorau yng Nghymru am y chweched blwyddyn o’r bron.

Dywedodd Paul Devoy, Pennaeth Buddsoddwyr mewn Pobl:  “Rydw i wastad yn synnu ac yn rhyfeddu at ansawdd yr enwebiadau ar gyfer Gwobrau Buddsoddwyr mewn Pobl, ac mae 2018 wedi bod yr un fath.  Mae’n fraint i ni weithio gyda miloedd o sefydliadau anhygoel ac mae’n destun balchder a phleser mawr i mi ein bod yn gallu amlygu a dathlu’r rhagoriaeth hon trwy ein Gwobrau.”

Noddir Gwobrau Buddsoddwyr mewn Pobl gan Activate Apprenticeships, Banbury Litho, CIPD, Employee Engagement Awards, Gaudio Awards, Reward Strategy a Troup Bywaters + Anders.

Weld y rhestr fer lawn a rhagor o wybodaeth am Fuddsoddwyr mewn Pobl, yma

Alison Stokes

alison.stokes@wwha.co.uk 07484 911100 Alison yw ein Swyddog CC a Marchnata ar gyfer De a Gorllewin Cymru.